Bywyd efo Diabulimia

Rhybudd cynnwys: anhwylderau bwyta.

Gwen Edwards dwi, merch 22 mlwydd oed o Ynys Môn a dwi’n dioddef o’r cyflwr Diabulimia sef Bulimia drwy Diabetes.

Ma’n golygu fy mod i’n fwriadol yn peidio rhoi injections i’n hun er mwyn trio colli pwysa’.

Dwi’n clywed y lleisau’n deutha fi beidio rhoi nhw achos os dwi’n rhoi nhw fyddai’n rhoi pwysa ‘mlaen.

Ma’ byw efo’r cyflwr yn anodd. Ma’ bob dydd yn her gwahanol.

Neshi golli 4 stôn nol ym mis Ionawr 2019. Dros y misoedd dwytha ma’r pwysa’ wedi bod yn mynd yn llai ag yn llai a mi oni ar fy ngwaetha nol ym mis Tachwedd 2019. Oni’n mwynhau colli’r pwysa’ a mynd i’r siopa i brynu dillad plant neu maint 4. Roedd y cyflwr wedi troi yn ffrind gora’ i mi.

Oni’n cael personal training am 6 mis lle oni’n trio codi’r pwysa i fyny gan fy mod i’n wan iawn ond gan mod i ddim yn bwyta, do’dd y pwysa’ ddim yn mynd ‘mlaen, felly o’dd rhaid i fi sdopio.

Oni’n ca’l diwrnoda’ lle oni’n beichio crio mewn poen, methu teimlo ‘nhraed, methu sefyll i fyny yn hir, methu cysgu gan bo ‘nghorff i dan gymaint o straen. Odd ‘ngwalld i’n disgyn allan, dannedd yn gwanhau, esgyrn ‘ngwynab i’n dangos drwadd. Oni’n edrych fel sgerbwd.

Ma’ bywyd erbyn heddiw yn wahanol. Dwi’n derbyn therapi CBT (cognitive behaviour therapy) bob wythnos ers mis Medi. Ma’ nhw’n trio newid fy ffordd i o feddwl ac i drio gwella’r ffordd dwi’n edrych ar fywyd. Ers imi ddechra’r therapi dwi wedi ca’l fy diagnosio efo OCD a dyna pam dwi’n trio cael bob dim yn berffaith. Ma’ ‘mywyd i’n un o rifau – pwysau, lefelau gwaed, nifer yr insulin, maint dillad. Oddo’n ormod. Oni’n stryglo’  Dwi’n dal i stryglo ambell ddiwrnod ond ma’ petha’n dechra’ gwella. Dwi’n ca’l rhai diwrnoda lle dwisho colli’r pwysa eto, mynd nol i’r ffordd oni, ond wedyn dwi’n sylweddoli pa mor bell dwi ‘di mynd dros y misoedd dwytha, a dwi’n deud wrth fy hun ‘mod i’n gallu neud o.

Ma’r diabwlimia wedi cymryd drosodd fy mywyd i a dwi ddim isho gweld rywun arall yn mynd drw’ hyn felly dwi’n erfyn ar bwy bynnag sy’n mynd drwy hyn neu ella’n meddwl eu bod nhw, i fynd i ofyn am gymorth yn syth. Ma’r doctoriaid yma i chi a digon o wefannau ag appiau. Peidiwch a cau eich hun i fewn. Siaradwch.

Gwen Edwards