‘Anweledig’ – Cyfweliad gydag Aled Jones Williams
Ym mis Chwefror a Mawrth mi fydd Anweledig, cynhyrchiad diweddaraf Aled Jones Williams, yn teithio 5 o brif theatrau Cymru.
Dyma benllanw cyfres sydd wedi ei ysbrydoli gan gofnodion meddygol yr hen ysbyty iechyd meddwl Dinbych yng Ngogledd Cymru.
Mae’r stori’n dilyn taith dynes sy’n byw gydag iselder difrifol wrth iddi frwydro i ymdopi â salwch anweledig. Dilynwn ornest bersonol Glenda (Ffion Dafis) wrth iddi brofi gwellhad a mentro i fywyd tu hwnt i’r ysbyty, a sut y mae hi, ei theulu a’i ffrindiau yn ymdopi â realiti’r gwellhad.
Dyma’r awdur yn egluro’r broses o ddatblygu’r ddrama gignoeth i gwmni theatr Frân Wen.
Beth oedd cychwyn proses datblygu Anweledig?
Roedd Ysbyty Dinbych yn rhyddhau hyn a hyn o’u dogfennau, ac felly roedd Frân Wen wedi cysylltu i ofyn a oedd gen i ddiddordeb datblygu cynhyrchiad theatr wedi ei ysbrydoli gan yr hen gofnodion meddygol.
Y cam cyntaf – o ble oeddech chi’n cael eich ysbrydoliaeth?
Hefo hon, mi oedd gen i un peth, sef beth oedd yn digwydd pan oedd bobl yn sâl hefo afiechyd oedd yn ymwneud â’r meddwl.
Tasa ti’n torri dy fraich neu dorri dy goes bysa pawb yn deud “Iesu, mae o wedi mynd i A&E.” Ond tasa rhywun yn dioddef o afiechyd a’i ffynhonnell yn y meddwl, y cwbl roeddet yn cael oedd pobl yn sibrwd a jest gwneud siâp ceg yr enw “Dinbych”. Doedden nhw byth yn dweud o.
O fanno ddechreuais i a des o hyd i gymeriad o’r enw Glenda oedd yn gweithio mewn banc, ac fel roedd hi yn raddol bach yn mynd yn is ac yn is i mewn i’r salwch yma, nes ei fod yn ei pharlysu yn llwyr.
A rhyw wrando arni hi a ‘sgwennu, a ffeindio bod ganddi ŵr a ffrind oedd yn trio eu gorau ond fawr o syniad beth oedd yn digwydd ac roedd hi’n berson hollol ar ei phen ei hun yn y diwedd – nes iddi gyrraedd Dinbych.
Oeddech chi’n gwneud gwaith ymchwil am iselder?
Dim fel y cyfryw, roeddwn yn mynd i mewn i brofiad fy hun. Doedd gennyf ddim profiad uniongyrchol a’r math o iselder hwyrach mae Glenda yn dioddef ohono, ond mae gennyf brofiad o’r math o iselder mae alcohol yn ei greu. Ac felly o fanno roeddwn i yn dod. Tynnu ar y profiad yna wnes i, a phobl hwyrach yn trio eu gorau i helpu ond fawr o syniad o beth yn union oedd yn mynd ymlaen.
Oedd gennych syniad beth oedd siwrne Glenda yn mynd i fod pan oeddech yn cychwyn yntau oedd o yn rhywbeth organig?
Nag oedd. Ei dilyn hi oeddwn i ac nid yn mynd o’i blaen hi hefo’r ‘sgwennu. Felly, roeddwn yn gorfod gwylio hi’n mynd a ‘sgwennu beth welwn i. Fe ffeindiais i’r gwellhad yn llawer anoddach oherwydd roedd pawb yn meddwl ‘ti ‘di gwella rŵan, ti’n iawn rŵan’.
Canfod gwnes i fod gwella’r un mor anodd â’r salwch ei hun. Ac roeddwn yn sicr eisiau trio cyfleu hwnna.
Sylweddolais fod unrhyw afiechyd, dim ots beth ydi o, nid yn rhywbeth sydd yn ymwneud ag unigolyn, ond rhywbeth cymdeithasol. Felly, mae pawb yn rhannu yn y salwch yma, ac mae hwy’n gorfod hefyd rhannu’r gwella.
Nid oes neb yn gwella ar ben eu hunain.
A’r sialens oedd gweld nad Glenda yn unig oedd yn newid ond oedd y bobl o’i chwmpas hi hefyd yn gorfod newid. Dyna oedd y daith.
Roedd lot o bobl yn gallu fy nhrin pan oeddwn yn sâl, roeddwn ryw fath o wrthrych ond pan oeddwn yn gwella doedd pobl ddim yn hoff iawn ar hynny. Roeddwn yn haws i fy nhrin pan oeddwn yn sâl na phan oeddwn yn gwella. Roedd pobl yn disgwyl i mi neidio i fyny a deud “Mae’n iawn rŵan,” ond doeddwn i ddim.
Hefyd, peth arall hefo’r salwch ydi’r ‘relapsio’ felly. Llithriad yn ôl ydi o – mae pawb yn llithro ond dyna’n union ydi o de, ti ddim yn mynd yn ôl i’r lle cychwynnol. Ti wedi dod i le da, mi geir woblar ond ymlaen a chdi.
Proses ydi gwella, nid un digwyddiad ar un diwrnod.
Faint o bwysigrwydd yw testun fel Anweledig i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg?
Dwi’n meddwl mai pwrpas unrhyw lenyddiaeth fel y cyfryw boed yn ddrama, nofel, stori fer beth bynnag yw medru rhoi geiriau i bobl fynegi profiad arbennig, beth bynnag ydi’r profiad hwnnw (salwch yn yr achos yma).
Bod o yn medru rhoi mynegiant i brofiad. Rhoi o allan yn fanna a bod pobl yn medru gweld ‘dwi hefyd wedi profi hyn’.
Mae’r ddrama yma i’r cyhoedd, mae’n gyhoeddus. Mae gen i’r hawl felly i ddeud yn gyhoeddus hefyd dwi ‘di bod yn fanna. Rhoi ryw hawl i bobl mae o ac i fedru dweud hefyd mae’n oce, mae’n iawn i mi fedru mynegi hyn a salwch ydi salwch ac os oes gennych chi broblem hefo’r salwch hwnnw yna eich problem chi ydi o, nid fy mhroblem i.