Anhwylderau bwyta – a byw efo nhw

Ers blynyddoedd bellach dwi wedi dioddef o anhwylder bwyta. Mi es i o fod yn ferch ifanc oedd yn mwyhau bywyd (a bwyd!), oedd yn malio dim am fy mhwysau i fod efo obsesiwn mwya’ efo ymarfer corff, colli pwysau a rheoli faint oeddwn i’n fwyta. I fod yn onest, doeddwn i ddim yn bwyta – roeddwn i’n dweud wrth fy rhieni mod i’n bwyta allan a dweud wrth fy ffrindiau mod i wedi bwyta adra cyn dod allan.

Doeddwn i ddim yn fy arddegau ifanc pan gychwynnodd hyn chwaith. Dwi’n meddwl mai’r adeg pan oeddwn i’n 19 ydi’r adeg olaf i mi gofio i mi fod yn “iawn” o gwmpas bwyd – dwi’n cofio bod ar wyliau efo ffrindiau yn Magaluf a doedd y math o fwyd neu faint oeddwn i’n fwyta ddim yn obsesiwn bryd hynny. Mae’n rhaid mai rywben ar ôl hynny y dechreuodd bethau slipio.

Dwi wastad wedi bod yn berson sy’n mwynhau ymarfer corff a thrio cadw’n ffit ond mae ‘na wahaniaeth mawr rhwng ei fwynhau a bod efo obsesiwn drosto. Roedd cyfnod lle roeddwn i’n mynd i’r gym bron bob dydd – pwsio a phwsio fy hun i losgi hyn a hyn o galorïau a wedyn peidio bwyta ar ôl bod, neu beth bynnag oeddwn i’n fwyta, doedd o ddim hanner digon i nghadw fi fynd. Dwi’n cofio adeg ble oeddwn i’n cyfri faint o oriau oeddwn i wedi llwyddo i fynd heb fwyd a theimlo bod hyn yn lwyddiant, a’r diwrnod wedyn ceisio ehangu ar faint oeddwn i’n medru bod heb fwyta. Os nad oeddwn i’n mynd i’r gym roeddwn i’n cerdded, am filltiroedd – hyd yn oed ar adeg nad oeddwn yn teimlo’n dda, roeddwn i dal i bwsio fy hun. Byddai’r euogrwydd o beidio gwneud unrhyw fath o ymarfer corff yn fy nghnoi.

Roeddwn i’n gwrthod unrhyw wahoddiad i fynd i nunlla oedd yn cynnwys bwyd neu bwyta, neu efallai y byddwn i’n mynd ond ddim yn bwyta a gwneud esgus mod i wedi bwyta cyn dod. Oeddwn i’n meddwl mod i’n cuddio’r broblem bwyta yn dda a bod neb yn sylwi be oedd yn mynd mlaen. Ond na, roedd bobl yn gwybod ac yn peoni. Roedden nhw’n gweld fy esgusodion, yn gweld fy nhymer yn  newid a fy egni’n diflannu, ac yn sylwi ar faint o bwysau roeddwn i wedi ei golli. Doedd gen i ddim syniad ar y pryd pa mor ddrwg oeddwn i’n edrych a faint o niwed oeddwn i’n ei wneud i fi’n hun – a hynny’n niwed ar sawl lefel.

Er gwaetha’r obsesiwn a phoeni am roi pwysau ymlaen, doedd o ddim yn ddigon i mi stopio yfed alcohol. Doedd y caloriau mewn alcohol ddim yn cyfri rywsut ac roeddwn yn dal i yfed, a hynny’n yfed gwirion. Yr hyn nad oeddwn i’n sylweddoli oedd bod fy nghorff methu dal y diod. Doeddwn i ddim yn bwyta cyn mynd allan ond doeddwn i ddim chwaith yn yfed llai i gydbwyso hynny. Yn aml byddwn i’n mynd i stâd – disgyn a brifo, codi cywilydd ar fy hun, bod yn boen ac yn niwsans i’n ffrindiau a sboilio eu noson. Dwi wedi colli trac sawl gwaith mae hyn wedi digwydd. Wrth edrych yn ôl mae gen i gymaint o gywilydd o’m hymddygiad a dwi’n lwcus iawn fod gen i’r ffrindiau sydd gen i.

Un peth sydd yn fy nghnoi ydi mod i ddim yn gwybod pam fod yr holl broblem efo bwyd wedi cychwyn na sut gychwynnodd. Dwi wedi siarad am oriau efo cwnselydd ac er ein bod wedi rhyw fath o adnabod tua 5 digwyddiad/cyfnod penodol yn y gorffennol y gall, gyda’i gilydd, fod wedi medru cyfrannu ar y broblem, mae’n fy ngwylltio mod i methu rhoi fy mys ar un peth a medru dweud “dyna oedd o neu hyn ddigwyddodd”.

“Binge eating”

Cefais i ddim diagnosis penodol o be yn union ydi’r salwch bwyta sydd arna’i gan fod y doctoriaid yn meddwl fod ‘na chydyig o gymysgedd o wahanol rai. Dwi’n bendant yn gwybod bod “binge eating” yn elfen fawr o’r brobem. Dwi’n cael cyfnodau lle dwi methu rheoli faint dwi’n fyta – fedra’i fod yn bwyta heb stopio am awr neu ddwy. Na’i fwyta fy ffordd drwy bopeth sy’n y cypyrddau, oergell a’r rhewgell. Yn ystod yr awr neu ddwy yma dwi’n meddwl am ddim byd arall ond bwyta a be fedra’i fwyta nesa. Dwi’n llawn a dwi mewn poen ond dwi methu stopio. Ar adegau dwi’n sâl ar y diwedd – dim ond i mi orfod plygu drosodd a dwi’n sâl. Dwi wedyn yn methu cysgu – mae fy mol yn brifo, dwi’n chwysu fel peth gwirion, mae gen i gur pen ac mae euogrwydd yr holl “binge” yn ormod i mi ddelio ag o. Mae’r diwrnod wedyn hefyd yn hunllef – mae gen i “hangover” bwyd a dwi’n casau fy hun am faint nes i fwyta ac am adael iddo ddigwydd eto.

Mae ‘di cymryd blynyddoedd i mi drio delio a dygymod â’r broblem bwyta. Mae wedi effeithio ar fy mywyd a’m iechyd a dwi’n ddyddiol yn flin efo fi’n hun am adael i’r holl beth fynd mor bell.

Er mod i wedi gwella ac wedi dod yn bell o ble’r oeddwn i pan gychwynnodd y broblem bwyta, dwi’n meddwl y bydd gen i issues efo bwyd am hir iawn eto – efallai na chai fyth wared ohonynt yn gyfangwbl ond y peth mwyaf dwi’n meddwl ydi mod i, ar ôl amser hir o wadu, wedi cyfaddef fod gen i broblem ac wedi cymryd camau i weithio arno.

Dwi’n araf deg wedi gwella a chryfhau ond mae’r drwg wedi ei wneud ac wedi arwain at faterion iechyd ehangach. Mae gen i dal broblem a dydi bwyta ddim yn rhywbeth dwi’n ei weld fel rhywbeth cymdeithasol y medrai ei fwynhau – dwi hyd yn hyn dal ddim rhy hoff o fwyta allan ond mi ai ar adegau. Dwi ddim yn bwyta pethau dwi’n eu cyfrif fel ‘bwydydd drwg’. Dwi hefyd yn hynod o gyfyngedig o ran fy niet a be fedra’i fwyta. Rhan fwyaf o’r amser na’i ddim bwyta llawer yn ystod y dydd gan mai yn y nos ydi’r prif adeg y byddai’n bwyta. Byddai bwyta gormod yn ystod y bydd yn rhoi elfen o euogrwydd arnai. Petawn yn bwyta mwy na’r arfer yn ystod y dydd, ni fyddai’n fy stopio rhag bwyta’r un faint a’r arfer yn y nos – mae fel bod rhaid i mi gadw i’r un faint o fwyd pob nos ond byddwn wedyn yn teimlo fel mod i wedi gwneud rhywbeth yn anghywir ac wedi bwyta mwy nag y dylwn. Dwi’n ymwybodol nad dyma’r ffordd orau i edrych ar bethau na chwaith yn ddelfrydol ar gyfer bywyd dydd i ddydd ond dyma sy’n fy helpu ac yn fy nghadw ar drac bwyta sefydlog.

Pan dwi’n cael “binge” dydi’r pethau dwi’n fwyta ddim yn rhai “drwg” na ffatning (sgen i ddim llawer o bethau felly yn tŷ beth bynnag!) ond y ffaith mod i’n bwyta cyn gymaint mewn cyn lleied o amser ydi’r broblem. Ar adegau, dwi’n gwybod pryd dwi am gael “binge”. Mae fel mod i’n ryw fath o’i gynllunio, dim o ddewis ond fel mater o raid – efallai bod rhywbeth wedi digwydd yn ystod y dydd a mae rhywbeth yn fy meddwl yn dweud wrtha i “dwi am gael binge heno”. Efallai mod i wedi bod allan a bod “rhaid” i mi fwyta hyn a hyn o fwyd cyn i mi gael mynd i’r gwely – dwi ddim angen ei fwyta ond mae ‘na rhywbeth yn cefn fy mhen yn dweud bod rhaid i mi. Os ydi’r bwyd hwnnw yno, mae’n rhaid i mi ei fwyta, does ots os dwi ei eisiau neu ddim. Roedd y “binges” yn digwydd mor aml ar un adeg nes i mi orfod stopio prynu rhai bwydydd penodol a chadw rhai eraill yn nhŷ fy rhieni.  Fydda i’n eu nôl pan fyddai eu hangen – dim ond digon am un diwrnod y byddai’n mynd yn ôl adra efo fi neu fyddai wedi bwyta’r cwbl. Dwi mwy neu lai yn nhŷ fy rhieni’n ddyddiol yn nôl y bwydydd yma gan mod i yn teimlo bod rhaid i mi gadw i’r un drefn dyddiol o ran yr hyn dwi’n fwyta.

Mae’r “binges” ‘ma yn chwarae rhan fawr yn fy iselder.

Dwi ddim cweit yn siŵr pa gyflwr sy’n sbarduno’r llall ond yn bendant dydi’r un o’r ddau yn helpu ei gilydd. Pan mae fy iselder yn ddrwg, mae’r awydd am “binge” yn chwalu drosta i achos am y cyfnod dwi’n bwyta mae gen i ffocws gwahanol i’r lleisiau yn fy mhen. Ond dydi’r teimlad ar ôl y “binge” ddim yn help o gwbl i pa mor isel dwi’n teimlo ac mae’r teimladau o euogrwydd yn troi’n belen eira – yn mynd yn waeth ac yn waeth yn fy mhen.

Dwi bellach wedi llwyddo i ddod o hyd i falans pan mae’n dod i ymarfer corff. Dwi erbyn hyn yn cael mwynhad allan ohono a ddim yn teimlo bod rhaid i mi ei wneud dim ond i losgi caloriau. Dwi’n mwynhau’r teimlad o fedru gwneud rhywbeth i mi’n hun a theimlo yn dda amdano – sydd yn help mawr pan mae’n dod i fy iselder.

Gwella

Hyd heddiw, dwi dal methu bwyta beth bynnag dwi isio neu awydd ei fwyta – dwi’n tueddu i ddewis rhywbeth ysgafn neu opsiwn ‘saff’ – unai pan dwi adra neu pan fyddai’n dewis oddi ar fwydlen allan. Ac ar adegau pan fyddai allan, byddai’n dewis peidio bwyta dim. Dydi hyn ddim yn digwydd yn rhy aml erbyn hyn, dim ond os byddai’n cael diwrnod drwg neu wedi cael “binge” y diwrnod cynt. Ond ar achlysur prin mi wnai ddewis rhywbeth sy’n anarferol i mi, rhywbeth dwi ei awydd ac heb ei gael ers tro byd gan mod i mor gyfyngedig efo be dwi’n fwyta. Dwi bellach wedi dechrau dysgu fy hun i beidio teimlo mor euog ar ôl ei fwyta a fyddai ddim yn teimlo rheidrwydd i orfod gor-ymarfer y diwrnod wedyn i losgi’r bwyd i ffwrdd, fel oeddwn i’n arfer gwneud blynyddoedd yn ôl. Pan fyddai’n medru dewis rhwybeth anarferol, mae’n gwneud i mi sylwi cymaint dwi wedi gwella a mod i’n falch o’n hun. Ar adeg fel hyn dwi’n medru mwynhau’r bwyd – medru blasu’r bwyd yn hytrach na dim ond ei fwyta gan fod rhaid. Mae cyrraedd fan hyn wedi cymryd amser ac amynedd – i mi a’r rhai o nghwmpas.

Dwi’n ddiolchgar iawn i bobl arbennig am aros efo fi, am ddeall ac am beidio rhoi fyny.