Plant yn eu harddegau yn llai unig oherwydd cyfryngau cymdeithasol : Golwg360
Mae bron i hanner plant gwledydd Prydain sydd yn eu harddegau yn meddwl bod defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud iddyn nhw deimlo’n “llai unig,” er y pryder gan rieni, mae ymchwil yn dangos.
Yn ôl adroddiad Unigrwydd a Thechnoleg yn yr Arddegau gan TalkTalk, mae 48% o blant yn eu harddegau yn dweud bod platfformau’r cyfryngau cymdeithasol yn eu helpu gydag unigrwydd.
Dywed 64% nad yw technoleg erioed wedi rhoi profiad gwael iddynt.
Mae hyn yn mynd yn groes gred rhieni, gyda 26% yn unig o’r rhai gafodd eu holi yn cytuno bod technoleg yn lleihau unigrwydd.