Ymchwil yn dangos effeithiolrwydd tabledi gwrth-iselder : BBC
Mae gwyddonwyr yn dweud eu bod wedi datrys un o ddadleuon mwyaf byd meddygol, ar ôl i astudiaeth mawr ganfod bod tabledi gwrth-iselder yn effeithiol.
Canfu’r ymchwil, a oedd yn dadansoddi data o 522 o achosion yn cynnwys 116,477 o bobl, bod 21 o dabledi gwrth-iselder cyffredin i gyd yn effeithiol wrth leihau symptomau iselder difrifol, o gymharu â thabledi ffug.
Dangosodd yr ymchwil hefyd gwahaniaeth mawr rhwng effeithiolrwydd pob cyffur.
Dywedodd awduron yr adroddiad, a gyhoeddwyd yn Lancet, y gallai mwy o bobl fuddio o gymryd y cyffuriau.
Darllen rhagor : BBC (Saesneg)
Ymwadiad: Mae pob meddyginiaeth yn effeithio ar bawb yn wahanol. Siaradwch â’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol cyn cychwyn neu roi’r gorau i gymryd meddyginiaeth.