Y seren rygbi Dafydd James yn cael pyliau o banig : BBC
Dywedodd y cyn-chwaraewr rygbi i Gymru a’r Llewod, Dafydd James, iddo ddechrau dioddef o orbryder a phyliau o banig wedi iddo ymddeol o chwarae rygbi.
Torrodd Dafydd James asgwrn yn ei wddf a arweiniodd at ddiddymu ei gytundeb â’r Scarlets yn 2009, gan ddod â’i yrfa i ben. Dywedodd:
“Collais fy hunaniaeth. Roedd hi’n anodd. Roeddwn i’n teimlo’n unig, wedi fy ngwrthod, ac yn ei chael hi’n anodd. Roeddwn i’n teimlo’n flin a gwnes i ddioddef yn wael – gorbryder, pyliau o banig, ‘beth os…?’. A dwi’n dal i gael hynny.” [cyfieithiad]
Dywedodd Dr Mikel Mellick, uwch ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon gymhwysol ac iechyd meddwl athletwyr ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, bod ymddeol fel galar a phrofedigaeth:
“Dyma farwolaeth pwy oedden nhw, mae eu hunaniaeth fel chwaraewr rygbi wedi mynd. Mae eu hunaniaeth gyfan yn gysylltiedig â bod yn chwaraewr rygbi o 13, 14 neu 15 mlwydd oed. Pan fydd hynny’n cael ei gymryd oddi wrthynt, yn enwedig os yw’r ymddeoliad hwnnw wedi ei orfodi arnynt… nid yw’n syndod ein bod yn gweld ymateb seicolegol i golled.” [cyfieithiad]