‘Tabŵ diwylliannol’ am iechyd meddwl mewn cymunedau BME : BBC
Mae pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME) yn cuddio problemau iechyd meddwl oherwydd stigma diwylliannol.
Mae elusennau wedi dweud bod disgwyliadau ar sut y dylid ymddwyn ac anrhydedd teuluol yn atal rhai menywod rhag siarad yn onest.
Mae ffigyrau’n dangos bod pobl Brydeinig gwyn yn cael mwy o gymorth, tra bod menywod BME yn fwy tebygol o gael salwch meddwl.
Dywedodd yr ymgyrchydd Asha Iqbal bod ofnau ynghylch cywilyddio ei theulu a pheidio â bod “y wraig berffaith” wedi gwaethygu ei gorbryder.
Dywedodd Asha Iqbal, a ddechreuodd dioddef o orbryder yn 10 oed, bod tyfu fyny fel menyw Asiaidd wedi dod â disgwyliadau diwylliannol.
“Mae’n rhaid i chi gyflwyno eich hun mewn ffordd benodol er mwyn i chi fod yn addas i rywun eich priodi chi. Dydych chi ddim eisiau agor eich calon rhag ofn y bydd hynny yn difetha eich enw da ar sut ydych chi’n cyflwyno’ch hun – does neb eisiau gwraig ansefydlog.”
Darllen rhagor : BBC (Saesneg yn unig) (Mae’r ffigyrau am yr NHS yn yr erthygl yn cyfeirio at Loegr yn unig)