Samariaid yn cael 9,000 o alwadau dros y Nadolig : BBC Cymru Fyw

Y llynedd fe gafodd y Samariaid – sydd ben arall y ffôn 24 awr o bob dydd – 9,000 o alwadau yng Nghymru adeg y Nadolig.

Dywedodd llefarydd bod cyfnod Nadolig yn hynod o brysur i’r elusen:

“Ar Noswyl Nadolig 2018 roedd bron 1,650 o wirfoddolwyr y Samariaid yn dechrau ar eu gwaith yn ein canghennau ar draws y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon.

Y diwrnod wedyn, aeth mwy na 1,475 o wirfoddolwyr y Samariaid i’r canghennau ac ymateb i filoedd o alwadau yn gofyn am help gan bobl a deimlai wedi’u gorlethu ar 25 Rhagfyr.”

Mae’r elusen yn gofyn i bobl ledled Cymru i helpu’r Samariaid i fod yno o hyd i’r rhai sydd angen cymorth emosiynol.

Gall unrhyw un gysylltu â’r Samariaid am ddim unrhyw bryd o unrhyw ffôn, hyd yn oed ffôn symudol heb gredyd.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw