Prosiect Pryder
Mae’r artist Teleri Lea yn chwilio am bobl yng Ngwynedd sydd â phrofiad o orbryder ar gyfer prosiect cyffrous.
Nod ‘Prosiect Pryder’ yw dylunio gofodau sydd yn lleddfu pryder, a chaiff y prosiect ei hyrwyddo mewn cydweithrediad â meddwl.org.
Os oes gennych chi brofiad o orbryder, ac yn byw yng Ngwynedd, byddai Teleri wrth ei bodd yn clywed gennych. Mae hi’n awyddus i dderbyn adborth ar ddyluniadau, ac i glywed am y math o amgylchiadau a sefyllfaoedd sydd yn eich helpu chi.
Am ragor o wybodaeth am gymryd rhan yn y prosiect, e-bostiwch Teleri neu ewch i’w gwefan.