Problem gamblo gan 1 o bob 100 o bobl yng Nghymru : Golwg360

Mae gan tua un o bob cant o bobl yng Nghymru broblem gamblo, gyda mwy na thair gwaith hynny mewn peryg o gael problem.

Yn ôl yr amcangyfrif swyddogol, mae gan 27,000 o bobl yng Nghymru broblemau gamblo ond, yn ôl y Comisiwn Gamblo, mae’r gwir ffigurau’n uwch.

Mae yna amcangyfrif hefyd fod 95,000 o bobl Cymru mewn peryg o gael problemau o’r fath, sy’n gallu arwain at afiechyd corfforol a meddyliol, dyledion a chwalu perthynas.

Darllen rhagor : Golwg360