Milwr yn y Meddwl : Theatr Genedlaethol Cymru

Mae cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, ‘Milwr yn y Meddwl’ gan Heiddwen Tomos, yn ymdrin ag effeithiau rhyfel ar iechyd meddwl milwyr.

“Mae Ned wedi dod adref i orllewin Cymru o faes y gad. Ond mae ei brofiadau diweddar yn rhyfel Irac wedi gadael creithiau dyfnion; rhai’n greithiau gweledol, ac eraill – y rhai dyfnaf – yn anweledig. Dyma ddrama newydd, ddirdynnol sy’n archwilio effaith trawma ar filwr o Gymro, wrth iddo ef a’i deulu geisio dod i delerau â digwyddiadau erchyll o’i orffennol a’r heriau newydd sy’n ei wynebu. Mewn stori oesol am gariad a pherthyn, a fydd cwlwm câr yn drech na’r bwled a’r bom?”

Perfformir Milwr yn y Meddwl am 6pm, 6 – 10 Awst, Theatr y Maes yn yr Eisteddfod.

Rhagor o wybodaeth a thocynnau : Theatr Genedlaethol Cymru