Mamau yn dioddef heb uned arbenigol : BBC Cymru Fyw
Mae mamau newydd sydd â phroblemau salwch meddwl yn “dioddef’ oherwydd diffyg uned mam a baban yng Nghymru, yn ôl un fenyw sydd wedi gorfod mynd i Loegr am driniaeth.
Does yna’r un uned yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae unedau arbennig yn rhoi cymorth i fenywod sydd â phroblemau iechyd, fel iselder ôl-genedigaeth dwys. Maen nhw’n derbyn triniaeth tra ar yr un pryd yn gallu aros gyda’u baban newydd-anedig.
Yng Nghymru, credir bod 9,000 o famau bob blwyddyn yn dioddef problemau iechyd meddwl yn ystod eu beichiogrwydd, neu yn y 12 mis ar ôl rhoi genedigaeth. Ond fe wnaeth yr uned arbenigol olaf yng Nghymru – yng Nghaerdydd – gau yn 2013. Ers hynny mae menywod wedi gorfod teithio i unedau dros y ffin, ar gost o £800,000 i’r GIG yng Nghymru.