Galw ar y Llywodraeth i wella gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg : meddwl.org

Llun: UMCB

Isod y mae llythyr yr anfonwyd oddi wrthym at y Gweinidog Iechyd ynghylch ein gwefan, meddwl.org, a gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg. Galwn ar y Llywodraeth i weithredu i sicrhau’r ddealltwriaeth o rôl iaith wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl, ac i roi cynlluniau cadarn mewn lle i fynd i’r afael â diffyg ymarferwyr sy’n gallu darparu gwasanaethau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Annwyl Weinidog Iechyd,

Hoffem dynnu eich sylw at wefan meddwl.org. Dyma’r wefan uniaith Gymraeg gyntaf i’w sefydlu at y diben o ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar faterion iechyd meddwl, yn ogystal â gofod i rannu ac i drafod profiadau.

Yr adran fwyaf poblogaidd ar y wefan yw’r adran brofiadau. Mae’r adran hon yn cynnwys cyfraniadau’n ymwneud ag iechyd meddwl gan wahanol unigolion ar ffurf blogiau, fideos, neu waith creadigol. Rydym wedi ein synnu â’r nifer o unigolion sy’n dymuno rhannu eu profiadau. Rydyn ni’n credu felly bod yma dystiolaeth glir iawn bod siaradwyr Cymraeg eisiau, yn gwerthfawrogi, ac yn cael budd o rannu a darllen am brofiadau iechyd meddwl yn eu hiaith eu hunain.

Mae’r dystiolaeth yma’n cyd-fynd â chanfyddiadau ymchwil sydd wedi canfod bod cleifion iechyd meddwl yn aml yn gallu cael mwy o fudd o wasanaethau a ddarperir drwy gyfrwng eu hiaith gyntaf gan nad oes unrhyw rwystrau ieithyddol i’w mynegiant, i’w hyder, i’w gallu i ddatgelu nac i’w gallu i adeiladu perthynas gyda’r ymarferydd.

Rhyddhaodd Cymdeithas yr Iaith wybodaeth o Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth ynghylch canran y staff ym maes iechyd meddwl sy’n medru’r Gymraeg. Mae’r canlyniadau i’w gweld yma. Mae’r mater wedi bod yn bwnc trafod gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ddiweddar hefyd, ac mae llawer o sylw wedi bod i’r pwnc yn y cyfryngau.

Mae fframwaith Mwy na Geiriau… Llywodraeth Cymru yn un uchelgeisiol sy’n gweithio tua’r nod o gynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol ac mae strategaeth iaith y Llywodraeth wedi pennu targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.  Wrth gwrs, rydym yn croesawu’r ddwy strategaeth ac yn wir obeithio gweld eu llwyddiant. Fodd bynnag, wrth i’r nifer o siaradwyr Cymraeg gynyddu’n unol â’r gwaith o weithio tuag at y targed, ac o ystyried mai cynyddu y mae problemau iechyd meddwl yn ein cymdeithas fodern, mae’n anodd gweld sut y bydd Cymru yn gallu cwrdd â’r galw cynyddol rhagdybiedig am wasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg, a gwneud hynny’n unol â chysyniad y Cynnig Rhagweithiol.

Galwn ar y Llywodraeth i weithredu, a hynny ar fyrder, i sicrhau’r ddealltwriaeth o rôl iaith wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl a’i arwyddocad fel rhan hanfodol o wasanaeth safonol, ac i roi cynlluniau cadarn mewn lle i gyfarch y diffyg ymarferwyr sy’n gallu darparu gwasanaethau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Hoffem wybod pa gamau ydych chi’n eu cymryd i geisio mynd i’r afael â’r broblem hon, er mwyn sicrhau y gall pob claf dderbyn gofal iechyd meddwl yn Gymraeg? Byddem yn ddiolchgar iawn o dderbyn gwybodaeth gennych ynghylch unrhyw waith rydych yn rhan ohono, neu unrhyw gynlluniau sydd ar y gweill i gwrdd â’r targedau uchelgeisiol sydd wedi eu gosod gan y strategaeth iaith a fframwaith Mwy na Geiriau….

Byddem hefyd yn ddiolchgar iawn petai unrhyw gyfleoedd yn codi i ni gydweithio â chi tuag at gyflawni’r nod sydd er budd Cymru gyfan. Petaech yn awyddus i drafod unrhyw agwedd o’r llythyr hwn ymhellach, byddem yn hapus iawn i hwyluso hynny.

Edrychwn ymlaen at eich ymateb,

Yn gywir iawn,

Manon, Hedd a Sophie
Tîm Rheoli meddwl.org 


image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb