Cerdded a Gweithio

Ben WimbushMae’r dyn yma, Ben Wimbush, yn ysbrydoliaeth i mi. Mae o yn anfon negeseuon i mi ar y cyfryngau cymdeithasol i ofyn a ydwyf wedi gwneud fy #20isplenty – ugain munud o ymarfer corff bob dydd. Ar ôl neges ddoe mi es i allan i gerdded llwybr cyhoeddus yng Ngheredigion a sylweddoli fod o’n iawn.

Roedd ugain munud yn ddigon i wneud i mi deimlo’n well. Felly dyma fi yn cyfieithu #20isplenty i #20ynddigon a deud wrth Ben faswn yn ceisio ysgogi fy nghyd Gymry i ddilyn y mantra.

Gyda gwaith a chyfrifoldebau a bwyta a siopa mae’n hawdd anghofio fod ymarfer corff ym mha bynnag ffordd yn gallu fod yn iachus iawn i’r enaid ac i’r meddwl. Dwi ddim yn or-hoff o bethau ffurfiol felly cerdded yw fy newis i o ymarfer corff. Ble bynnag allai mi gerdda’i.

Nid oes gan Ben y dewis yna, felly ar ei beiriant ymarfer corff aiff o bob dydd ac ar ei wefannau mae o yn dangos ac ysgogi pobol eraill ac yn deud “os allai wneud o allwch chi”.

Mae mor hawdd mewn pwl o iselder i wneud dim. Dim dewis ydy iselder ond mae o yn ddewis i frwydro fo neu beidio yn fy mhrofiad i. Mi allwn i gymryd y tabledi a thynnu yn ôl o fywyd, eistedd ar y soffa a gadael i’r meddyliau pyli. Mae ‘na le i hwnna ond hefyd mae ‘na le i gerdded ac i seiclo ac i yoga.

Mae o’n dibynnu ble ydych chi yn y cylch anhwylder! Gorfeddwl am bethau negyddol yw fy mhroblem i, ond dwi’n gweld fod y meddyliau cas yn pylu ar ôl i mi gerdded am ryw hanner awr.

Dwi’n ceisio osgoi gymaint o gyfrifoldebau bywyd a gallaf oherwydd mae ‘stress’ yn gwneud fy nghyflwr i’n waeth. Y broblem wedyn ydy fod hyn yn eich rhoi chi mewn lle bregus o ennill eich tamaid oherwydd cael ein talu am y maint o stress allwn ni ddioddef ydym ni yn y bôn. Y mwyaf o stress y mwyaf y cyflog! Mi allwch chi fod y person mwyaf galluog, ond unwaith fod problemau iechyd meddwl yn cydio mi allith hwn effeithio ar eich gallu i gael a chynnal gwaith. Ond dyle fe ddim bod fel hyn.

Dim offerynnau mecanyddol ydym ni! Ry’n ni’n eneidiau byw ac mi ddylwn ni gael ein trin gan gymdeithas felly! Mae 12 mlynedd wedi pasio ers fy niagnosis o Anhwylder dau begwn, dwi wedi gwneud gwaith gwirfoddol yn yr amser yna ond mae fy ngradd, fy ôl-radd a fy nghymwysterau dysgu yn golygu ddim byd i gyflogwyr sydd eisiau cael gwarant fod eu gweithiwr newydd yn mynd i gydymffurfio gyda beth bynnag wnawn nhw ofyn iddyn nhw wneud.

Fy nymuniad i fasa ffeindio gwaith rhan amser, sydd ddim yn rhy stressful ac sydd yn talu cyflog dechau ac sydd yn ugain munud o gartref.

Cofiwch #20isplenty #20ynddigon

David Williams

Rhannu

Diwrnod Canlyniadau ac edrych ar ôl eich iechyd meddwl

canlyniadauDwi’n cofio Diwrnod Canlyniadau blwyddyn ddiwethaf yn glir. Ar ôl blwyddyn heriol gyda fy iechyd meddwl, roedd amser arholiadau wedi bod yn andros o anodd hyd yn oed gyda’r gefnogaeth oedd gennai o fy nghwmpas.

Roeddwn yn ofnus iawn o ddiwrnod canlyniadau. Roedd disgwyliadau andros o uchel ohonai ag ni oeddwn yn sicr fy mod yn gallu cyrraedd y disgwyliadau yna na fy ngraddau disgwyliedig.

Roedd y wythnosau yn arwain at y diwrnod yn ofnadwy heb siawns i ddianc o’r ffaith fod fy nyfodol am gael ei benderfynu ar y diwrnod yna. Roeddwn wedi cynllunio sut i daclo’r diwrnod er mwyn osgoi pyliau o banig a chrio o flaen unrhyw un.

Ar ôl jyst ychydig o oriau o gwsg aeth fy larwm i ffwrdd. Roedd yn amser i edrych ar UCAS. Roeddwn yn teimlo’n sâl gyda’r pryder wrth i mi logio i mewn i edrych. Wrth logio i mewn gwelais fy mod wedi derbyn lle ym Mhrifysgol Caerdydd ond nid yn fy newis cyntaf. Roeddwn yn andros o anhapus ag wnes i fyrstio i mewn i ddagrau. Roedd yn golygu fy mod i ddim wedi cyrraedd fy ngraddau disgwyliedig. Roeddwn wedi gwneud digon i gael lle mewn prifysgol ond ddim digon i gyrraedd y disgwyliadau ohonai…

Darllen yn llawn: Adnabod yr Arwyddion

Rhannu

Annerbyniol, eilradd, peryglus: gwasanaeth iechyd meddwl mewn ail iaith

Meri HuwsBob hyn a hyn mae rhywun yn gweld neu’n clywed rhywbeth sy’n creu argraff, sy’n gymysgedd o ysgytwad ac ysbrydoliaeth, ac sy’n ei wneud yn fwy penderfynol nag erioed i weithredu er mwyn gwella pethau.

Profiad o’r fath ges i un prynhawn Gwener gwlyb yn ddiweddar. Y lleoliad oedd y tu allan i stondin Cymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd a’r pwnc dan sylw oedd pwysigrwydd gofal iechyd meddwl yn Gymraeg.

Criw bychan ohonom oedd yno – â phawb, rwy’n tybio, yn rhannu’r un farn ynglŷn â phwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg. Er hynny, roedd clywed y siaradwyr yn dweud eu stori yn brofiad dirdynnol. Gadawodd gadernid a dewrder y bobl hyn, sawl un ohonyn nhw’n bobl ifanc, argraff ddofn arna i, a bydd eu geiriau yn aros gyda fi.

Roedd y cyflyrau a’r salwch yn amrywio, ond roedd y profiadau’n gyson. Methu â chael gwasanaeth iechyd meddwl yn y Gymraeg.

Parhau i ddarllen

Rhannu

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna?”

IMG_20160430_103050

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna? Dyna pryd ma’ iaith yn dod yn rhwystr, ond dyna pryd ddylia iaith fyth fod yn rhwystr.”

Pan ddois i wybod am wefan meddwl.org, ro’n i’n eithriadol o falch a diolchgar i’r sylfaenwyr am greu adnodd mor angenrheidiol.  Mae’n rhyfedd a dweud y gwir dydi, sut ein bod ni’n ymateb i adnodd Cymraeg fel tasa ni ‘di darganfod aur, a ninna’n cymryd y mynydd o adnoddau Saesneg yn gwbl ganiataol.

Yn anffodus, dyma adlewyrchiad perffaith o’r sefyllfa yn ei chyfanrwydd.  ‘Da ni gyd yn gwybod am fodolaeth gwasanaethau iechyd meddwl, am psychiatrists, psychologists, counsellors, meds. Ond gofynna am seiciatrydd, seicolegydd neu gwnselydd, ac mi wyt ti wirioneddol yn cloddio am aur.

Beth am y rheiny felly sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg?

Penderfynais fynd ati i gwblhau darn o waith ymchwil ar arferion ac anghenion cyfathrebu siaradwyr Cymraeg wrth iddyn nhw dderbyn gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngwynedd fel rhan o’m cwrs MA yn 2015, ac roedd canfyddiadau arwyddocaol sy’n gofyn am newid.

Darllen mwy….

 

Rhannu

Iechyd Meddwl a Cholled

#CefaisGamesgoriadYn ôl y Miscarriage Association, mae un o bob pedwar beichiogrwydd yn dod i ben drwy gamesgoriad (miscarriage). Ond does neb yn siarad am hynny.

Mae’r rheol o beidio cyhoeddi eich beichiogrwydd cyn deuddeg wythnos yn achosi straen enfawr i’r rhai sy’n profi camesgoriad, a’r disgwyliad yw i barhau â’ch bywyd fel petai popeth yn iawn. Yn anffodus, nid yw mor hawdd â hynny.

Dwi’n gwybod hyn oherwydd dwi’n un o’r rhai hynny, dwi’n un o bob pedwar, dwi wedi cael camesgoriad. Mae rhannu’r holl manylion personol hyn yn teimlo’n rhy ymwthiol i oddef, ond dwi’n teimlo dyletswydd i wneud yn y gobaith y bydd o gysur i rywun arall ac yn chwalu’r stigma sy’n bodoli.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Dwi’n cael chwalfa feddyliol: Pan fo’n fwy na geiriau

Di-deitlSawl un ohonom sydd wedi defnyddio termau fel ‘rwy’n cael melt down’ neu ‘dwi’n mynd yn byserc?’ Beth am ‘mae fy mhen yn mynd i fyrstio’ neu ‘dwi’n cael chwalfa feddyliol?’ Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi defnyddio’r ymadroddion hyn ryw bryd i’w gilydd – roeddwn i’n arfer defnyddio nhw hefyd. Chi’n gweld, roeddwn i’n byw yn y byd corfforaethol o straen gredadwy, o bobl yn dychmygu roeddynt yn dioddef chwalfa feddyliol. Roedd y derminoleg oedd yn cael i daflu o amgylch y swyddfa pob dydd yn awgrymu roedd y byd yn dod i ben.

Fodd bynnag, y drafferth yw i rai mae’r byd yn dod i ben.

I rai o’ch cwmpas heddiw bydd y geiriau hyn yn dod yn fwy na mynegiant. Bydd y derminoleg ni’n defnyddio i ddisgrifio ein straen yn dod yn fwy na dim ond geiriau i rai o’n cydweithwyr. Byddant yn dod yn realiti, ac yn newid eu bywydau a bywydau eu teulu a ffrindiau am amser hir iawn.

Mae 98% o bobl sydd yn dioddef o iselder yn rhy ofnus i rannu eu cyflwr gyda’u cyflogwyr oherwydd eu bod yn poeni y gallai effeithio ar eu gwaith. Tra bydd ¾ ohonom yn dioddef o ryw fath o salwch meddwl yn ystod ein bywyd, a bydd hyn fwy na thebyg yn digwydd yn ystod ein blynyddoedd yn y gweithle.

Y cwestiwn mae’n rhaid gofyn yw, sut byddai eich cwmni chi yn delio gyda salwch meddwl?

Parhau i ddarllen

Rhannu

Y Pris ‘Dan Ni’n Dalu

18813683_10211383724846268_6592034178850789351_nProfedigaeth. Yn anffodus, dio’m yn wbath fedrith rywun osgoi. Ond eto’i gyd, mae o’n dipyn o bwnc tabŵ o fewn ein cymdeithas dwi’n teimlo. Ma’n effeithio pawb, ond dewis cadw fo i ni’n hunain yda ni.

‘Nath o gymryd blynyddoedd imi allu siarad yn agored yn dilyn y profedigaeth cynta’ geshi. ‘Doni methu dirnad â’r peth. Dwi’n berson sy’n teimlo bron popeth i’r byw, a dwi dal ddim yn siwr os ‘di hynny’n beth da neu ddim i fod yn onest. Ar un llaw, ma’n dangos bo’ chi’n poeni am bobl ac ella’n fwy emotionally intelligent na’r person cyffredin, ond ar y llaw arall, mae’n gallu’ch g’neud chi’n fwy agored i niwed.

Wrth gwrs, mae galar yn gallu cael effaith sylweddol ar eich iechyd meddwl. Mae’n achosi teimlad o unigrwydd llethol, ac mewn rhai achosion, mae hynny’n gallu datblygu i iselder. Ma’ gorfod dysgu byw heb rywun oedda chi’n meddwl y byd ohonyn nhw, a mynd yn ôl i normal yn uffernol o tough. Ond yn amlwg, fedrith petha’ byth fynd ‘yn ôl i normal’.Ma’ popeth yn newid. Mae’r ddeinameg yn wahanol. Pan ‘dach chi’n ca’l newyddion da neu efo rhyw gossip diddorol i rannu – tydi’r person ‘dach chi isho deud wrth fwya’, ddim yno. Tydi achlysuron arbennig byth ‘run peth – ‘Dolig/penblwydd yn enwedig. Ma’ rheiny’n gallu bod yn anodd ofnadwy i ddeud gwir – ma’na gymaint o bwyslais ar yr elfen deuluol ac ati, mae o fatha bo’ chi’m yn ca’l bod yn drist ar yr adega’ hyn, mae o’n erbyn y rheola’.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Galar a Fi – Beth ddylwn i ei ddweud wrth rywun sy’n galaru? : Y Lolfa

Daw’r darn isod o gyfrol newydd Y Lolfa, ‘Galar a Fi‘, sy’n trafod profiadau ingol o fyw gyda galar.

Beth ddylwn i ei ddweud wrth rywun sy’n galaru?

galar-a-fi-esyllt-maelorMae geiriau fel hyn yn gallu brifo:

Maen nhw yn well eu lle.

Rhaid i ti symud mlaen.

Dwi’n deall sut wyt ti’n teimlo.

Paid â bod yn ddigalon.

Rhaid i ti ddechrau mynd allan eto.

Mae angen i ti ailafael mewn pethau.

Byddi di’n well ar ôl y flwyddyn gyntaf.

Bydd pethau’n gwella gydag amser.

Mae yna reswm tu ôl i bopeth.

Mi gei gau’r drws rŵan, yn cei.

Bydd ddewr.

Paid â throi pob dim yn dy feddwl.

Mi ddoi di drosto.

Ti yw ‘dyn’ y tŷ rŵan. Rhaid i ti fod yn gefn i…

Parhau i ddarllen

Rhannu

PTSD a fi

PTSD a fi(1)Dwi wedi bod yn dioddef ag Anhwylder Straen Wedi Trawma, neu PTSD, am wyth mlynedd bellach. Erbyn hyn, dwi’n deall fy salwch. Dwi’n deall pam fod gen i’r salwch. A dwi hyd yn oed wedi derbyn bod y salwch yn rhan o fy mywyd bellach. Ond nid yw hynny oll yn gwneud y profiad yn un llai brawychus ac unig. Fy mwriad drwy rannu fy stori felly yw herio’r syniad sydd gan bobl am y cyflwr, ac yn bennaf, cynnig gobaith i ddioddefwyr eraill.

Wrth i mi baratoi’r darn hwn, un o’r pethau y bu’n rhaid i mi ystyried oedd p’un ai i rannu’r digwyddiad trawmatig a achosodd fy salwch neu beidio. A fyddai hyn ond yn achosi mwy o straen i mi wrth ei ysgrifennu? A fyddai’r stori’n rhy anodd i bobl ei ddarllen? A oedd manylion y digwyddiad ei hun hyd yn oed yn bwysig i’w cynnwys wrth i mi drafod y cyflwr?

Mae’r hyn a ddigwyddodd i mi’n eithafol, ond yn anffodus nid yw’n anghyffredin. Penderfynais felly y byddai’n rhaid i mi rannu’r digwyddiad er mwyn rhoi darlun cyflawn o’r salwch i chi. Dyma oedd sbardun fy salwch, wedi’r cyfan.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Fy mywyd gyda fy nghythreuliaid: Sut beth yw dioddef o chwalfa feddyliol

Di-deitl

Ychydig o amser yn ôl gofynnodd ffrind i mi geisio egluro sut mae’n teimlo i ddioddef o chwalfa feddyliol. Roedd hi eisiau deall, i geisio dychmygu sut deimlad yw hi i ddioddef o salwch meddwl. Beth mae iselder a phryder yn edrych fel ac yn teimlo fel pan mae’n dod yn ormod i reoli?

Roedd yn gwestiwn diddorol.

Pan wnes i ddechrau dioddef o broblemau iechyd meddwl dwy flynedd yn ôl, roedd yn annisgwyl iawn. Ar y pryd roeddwn yn uwch reolwr gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector preifat a chyhoeddus, roeddwn yn rhagori yn fy ngyrfa ac wastad yn mynd tu hwnt i alwad y ddyletswydd. Fi oedd y person a ddisgwylir lleiaf i ddioddef o broblemau iechyd meddwl, ond nid yw’n gwahaniaethu, a gwnaeth fy nghorff a fy meddwl gau lawr arnaf.

Y gwir yw, mae’n anodd i roi mewn i eiriau sut mae’n teimlo i ddioddef o broblemau iechyd meddwl. Ond ar ôl gwneud gwaith ymchwil, siarad â phobl, darllen ac edrych ar wahanol bapurau gan ysgolheigion – mae’n amlwg na allwch fyth ddisgrifio yn gwbl gywir sut mae iselder a phryder yn teimlo gan eu bod yn wahanol o berson i berson. Mae gan bob unigolyn fersiwn eu hunain o’r cythraul, mae’r ymwybodol yn ymddangos ac yn effeithio ar bawb mewn ffordd unigol.

Parhau i ddarllen

Rhannu