Llwyfan i Iechyd Meddwl ar Ddiwrnod y Llyfr : Cyngor Llyfrau Cymru

Yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Iau 5 Mawrth 2020, bydd panel o chwech arbenigwr yn trafod manteision ‘bibliotherapi’ lle caiff llyfrau hunangymorth eu defnyddio i gefnogi iechyd meddwl a lles.

Mae’r cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yn cynnig gwybodaeth a chymorth defnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae rhai llyfrau hefyd yn cynnwys straeon personol gan bobl sy’n byw gyda rhywun ag anghenion iechyd meddwl neu’n gofalu amdano.

Bydd digwyddiad Diwrnod y Llyfr yn dechrau am 6yh gyda derbyniad yn Venue Cymru yn Llandudno nos Iau 5 Mawrth 2020, gyda’r drafodaeth banel am 6.30yh. Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb. Y cyfan sydd angen ei wneud i gadw lle yw e-bostio menai.williams@llyfrau.cymru.

Darllen rhagor : Cyngor Llyfrau Cymru