Lansio ap myfyrio Cymraeg ‘Cwtsh’
Lansiwyd ap Cwtsh yr wythnos diwethaf (dydd Gwener, Ebrill 27) gan Fenter Iaith Abertawe.
Mae’r ap yn cynnwys tair sesiwn myfyrio; un i’r bore, un i’r prynhawn, ac un cyn cysgu. Mae’r ap hefyd yn cynnwys ‘Llyfr Lles’, sef cyfeiriadur cenedlaethol ar gyfer sesiynau myfyrdod a dosbarthiadau ioga yn Gymraeg.
Gallwch lawrlwytho’r ap am ddim o’r App Store neu Google Play