Intern: Datblygu Adnoddau Iechyd Meddwl Cymraeg Ar-lein : Prifysgol Bangor
Mae prosiect newydd i wella cymorth iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg yn chwilio am ddau intern i ymuno â’r tîm!
Cefndir y prosiect
Ym mis Ebrill 2018, cyflwynwyd Safonau’r Gymraeg newydd mewn sefydliadau ledled Cymru. Mae gan brifysgolion a cholegau ddyletswydd statudol i ganiatáu i fyfyrwyr ddefnyddio Cymraeg wrth gael gafael ar gwnsela neu gymorth iechyd meddwl, fel y pwysleisiodd Comisiynydd y Gymraeg drwy’r ymgyrch ‘Mae Gen i Hawl’.
Ar ôl cais llwyddiannus yn 2019 dyfarnwyd cyllid i Brifysgol Bangor gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru ar brosiect Newydd i wella hygyrchedd cymorth iechyd meddwl priodol i bob myfyriwr yng Nghymru sydd yn defnyddio Cymraeg fel iaith gyntaf.
Amlinellodd y cais dair rhan o’r prosiect:
- Creu rhwydwaith o Ymarferwyr a Therapyddion Iechyd Meddwl Cymraeg
- Hyfforddi staff ledled Cymru a darparu sesiynau DBT yn y Gymraeg i helpu i adeiladu gwytnwch myfyrwyr
- Creu gwefan adnoddau iechyd meddwl Cymraeg
Arweinir y project gan Brifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Grŵp Llandrillo Menai a meddwl.org.
Ar hyn o bryd mae tîm y prosiect yn recriwtio dau intern i gefnogi creu’r wefan adnoddau.
Mae llawer o golegau a phrifysgolion wedi buddsoddi mewn llwyfannau ar-lein i ategu eu cefnogaeth iechyd meddwl, ond dim ond yn Saesneg y mae’r llwyfannau hyn ar gael!
Mae myfyrwyr wedi bod yn lobïo’n genedlaethol am adnoddau yn y Gymraeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf heb fawr o lwyddiant – tan nawr.
Y nod yw asesu’r elfennau gorau o wefannau, ‘apiau’ a gwasanaethau Iechyd Meddwl eraill, eu cyfieithu i’r Gymraeg a’u llunio yn un wefan hygyrch.
Bydd y ddau intern amser llawn yn chwarae rhan hanfodol yn natblygiad y wefan dros y 6 mis nesaf gan ddatblygu cynnwys Cymraeg amlgyfrwng, weithio gyda myfyrwyr i werthuso gwybodaeth, cyngor, cyfeirio at wasanaethau a dulliau chodi ymwybyddiaeth rhwng cymheiriaid.
Mae swyddfa’r prosiect wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Bangor, ond mae’n bosibl gweithio o gartref, neu efo un o’n partneriaid yn lleol i ti.
Cofiwch, mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn.