Gwefan Gymraeg newydd i helpu dioddefwyr iechyd meddwl

Lansiwyd gwefan newydd meddwl.org heddiw, Dydd Iau 17 Tachwedd, sydd yn cynnwys gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl yn Gymraeg.

Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl, ble i gael cymorth yn Gymraeg, fforwm drafod i bobl sgwrsio a rhannu profiadau a chyngor a straeon perthnasol o’r wasg.

Meddai Hedd Gwynfor, un o sylfaenwyr y wefan:

“Mae ychydig o ddeunydd Cymraeg ar gael ar hyn o bryd, ond mae’n anodd dod o hyd iddo. Bwriad y wefan felly yw dod â’r holl wybodaeth sydd ar gael yn Gymraeg ynghyd i un lle. Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth ar y wefan yn bethau a oedd ar gael eisoes mewn llefydd gwahanol ar-lein, ond mae peth gwybodaeth newydd gan elusennau nad oedd ar-lein o’r blaen. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys adran ‘Myfyrdodau’, sydd yn gyfle i bobl rannu eu profiadau yn Gymraeg a fydd gobeithio o ddefnydd i eraill.”

“Ein gobaith yn yr hirdymor yw helpu i sicrhau bod elusennau a mudiadau iechyd meddwl yn darparu mwy o ddeunyddiau iechyd meddwl yn Gymraeg. Mae’r prinder gwasanaethau a deunyddiau iechyd meddwl yn Gymraeg yn broblem fawr. Nid yw enwau Cymraeg llawer o’r cyflyrau yn gyffredin hyd yn oed felly rydyn ni’n gobeithio bydd y wefan yn ffordd o fynd i’r afael â’r broblem hon. Mae’n bwysig bod dioddefwyr yn cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn yr iaith sydd fwyaf cyfforddus iddynt.”