Gorbryder a straen: galw am drin staff y Gwasanaeth Iechyd yn gynt : Golwg360

Achosion yn ymwneud ag iechyd meddwl yw’r prif reswm pam y mae staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn gofyn am ddiwrnodau i ffwrdd o’r gwaith, yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Roedd y cais yn dangos fod gorbryder, straen, iselder ac anhwylderau seiciatryddol eraill wedi effeithio ar 7,946 o staff y gwasanaeth iechyd yn ystod 2015/16.

Roedd hyn yn gyfrifol am fwy na 345,000 o ddiwrnodau o absenoldeb o’r gwaith, gyda gweithwyr yn cymryd tua 46 diwrnod i ffwrdd, ar gyfartaledd.

Am hynny, mae Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno system sy’n galluogi gweithwyr y gwasanaeth iechyd i gael triniaeth yn gynt.

Darllen mwy : Golwg360