Dynion yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl yn gysylltiedig â gwaith : Mind

Mae ymchwil newydd gan Mind yn dangos bod dynion ddwywaith yn fwy tebygol o gael problemau iechyd meddwl o ganlyniad i’w gwaith, i gymharu â phroblemau tu allan i’r gwaith.

Mae 1 o bob 3 dyn (32%) yn cysylltu iechyd meddwl gwael gyda’u gwaith, i gymharu â 1 o bob 7 dyn (14%) yn dweud mai problemau y tu allan i’r gwaith sy’n achosi iechyd meddwl gwael. Mae menywod ar y llaw arall, yn dweud bod eu swydd a phroblemau y tu allan i’r gwaith yn cyfrannu’r un faint at iechyd meddwl gwael; 1 o bob 5 menyw yn dweud mai eu swydd yw’r rheswm am eu hiechyd meddwl gwael, yr un nifer â’r rhai sy’n dweud mai problemau y tu allan i’r gwaith sydd ar fai (19%).

Mae’r data hefyd yn dangos bod dynion yn llai parod i ofyn am gymorth a chymryd amser i ffwrdd o’r gwaith na menywod. Mae ymchwil blaenorol gan Mind yn awgrym bod dynion yn aml yn ceisio dod o hyd i ffyrdd i ymdopi â’u problemau yn annibynnol yn hytrach na gofyn am gymorth a rhannu.

Darllen rhagor : Mind