Dros hanner o bobl LHDT wedi profi iselder

Canfu ymchwil newydd gan Stonewall bod 52% o’r 5,000 o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol a holwyd mewn arolwg wedi profi iselder yn y flwyddyn ddiwethaf, a bod gan 61% ohonynt orbryder.

Mae’r sefyllfa yn arbennig o bryderus i bobl trawsryweddol. Dros y 12 mis diwethaf yn unig, ceisiodd dros 1 o bob 10 person traws (12%) gymryd eu bywydau eu hunain, o gymharu â 2% o bobl LHD nad ydynt yn draws. Mae bron i hanner o bobl traws (46%) wedi cael meddyliau hunanladdol.

Canfu’r ymchwil hefyd fod:

  • Profiadau o gam-drin a chamwahaniaethu gwrth-LHDT ar y stryd, yn y cartref ac yn y gwaith yn cynyddu’r risg o iechyd meddwl gwael yn sylweddol.
  • 2 o bob 3 (69%) o bobl LHDT sydd wedi dioddef trosedd casineb wedi profi iselder.
  • Nifer o bobl LHDT yn wynebu lefel syfrdanol o uchel o elyniaeth a thriniaeth annheg wrth geisio gwasanaethau gofal iechyd.
  • 1 o bob 7 (14%) person LHDT yn osgoi ceisio gofal iechyd oherwydd ofn cael eu gwahaniaethu gan staff.

Darllen rhagor : Mental Health Today (Saesneg)