Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd – Medi 10

RHYBUDD: Os nad ydych yn teimlo y gallwch gadw eich hun yn ddiogel ar hyn o bryd, dylech gael help ar unwaith. Ewch i unrhyw adran A&E mewn ysbyty, ffoniwch 999, neu gofynnwch i rywun ffonio ar eich rhan. Gallwch hefyd gysylltu â’r Samariaid ar 0808 164 0123 (Cymraeg, 7–11pm bob nos) neu 116 123 (Saesneg, 24/7). Gweler hefyd ein tudalen Cymorth.

Mae hunanladdiad yn fater difrifol sy’n effeithio ar bobl ledled y byd, gydag effeithiau emosiynol, cymdeithasol ac economaidd. Amcangyfrifir bod dros 700,000 o bobl yn marw trwy hunanladdiad bob blwyddyn ledled y byd, ac mae pob marwolaeth yn cyffwrdd â llawer mwy o fywydau. Mae’n broblem fyd-eang sy’n effeithio ar unigolion a chymunedau cyfan.

Cynhelir ‘Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd’ yn flynyddol ar 10 Medi, a’r thema a nodwyd ar gyfer 2024-2026 yw ‘Newid y Naratif ar Hunanladdiad’ gyda galwad cysylltiedig i weithredu o; ‘Dechreua’r Sgwrs’.

Mae newid y naratif yn golygu ailfeddwl sut yr ydym yn gweld hunanladdiad. Yn lle bod yn dawel a pheidio â deall y mater, mae angen i ni fod yn agored, yn ofalgar ac yn gefnogol. Mae’r dull hwn yn annog pobl, cymunedau, sefydliadau, a llywodraethau i siarad yn agored am hunanladdiad a meddyliau hunanladdol. Trwy gael y sgyrsiau pwysig hyn, gallwn chwalu camddealltwriaeth, cynyddu ymwybyddiaeth, ac adeiladu amgylcheddau mwy cefnogol.

I newid y naratif yn wirioneddol, mae angen newidiadau ar bob lefel. Mae hyn yn golygu gwthio am bolisïau sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl, yn gwneud gofal yn haws cael gafael arno, ac yn cynnig cymorth i’r rhai mewn angen. Mae hefyd yn golygu buddsoddi mewn ymchwil i ddeall hunanladdiad yn well a datblygu atebion effeithiol.

Mae newid y ffordd rydyn ni’n siarad am hunanladdiad yn golygu dangos empathi a thosturi i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd. Mae angen inni gydnabod bod meddyliau hunanladdol yn dod o boen dwfn, ac nid yw siarad amdanynt yn gwneud pethau’n waeth. Mae’n golygu gwrando heb feirniadu, cynnig cymorth, a helpu i arwain pobl at y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae cydnabyddiaeth y gall trafod hunanladdiad fod yn anodd iawn i’r rhai sydd wedi’u heffeithio ganddo, naill ai’n bersonol neu drwy annwylyn. Bwriad Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yw codi ymwybyddiaeth, ysbrydoli newid, a chynnig ymdeimlad o gymuned a dealltwriaeth i bobl sydd â’r profiadau hyn.

Mae gwahanol wledydd, cymunedau ac unigolion ar gamau amrywiol o ddeall atal hunanladdiad. Ni waeth ble rydych chi ar eich taith, mae sawl ffordd o gymryd rhan yn Niwrnod Atal Hunanladdiad y Byd. Mae ‘International Association for Suicide Prevention’ wedi creu ystod o weithgareddau ac adnoddau fel y gall pawb gymryd rhan mewn ffordd ystyrlon. P’un a ydych newydd ddechrau dysgu am atal hunanladdiad neu eisoes yn ymwneud ag eiriolaeth, mae cyfleoedd i chi gyfrannu at yr achos pwysig hwn.

Ffynhonnell (Saesneg – dolen allanol): www.iasp.info/wspd

Am fwy o wybodaeth am deimladau hunanladdol: meddwl.org/gwybodaeth/teimladau-hunanladdol