Chwarter o ferched 14 oed yn ‘hunan-niweidio’

RHYBUDD: Mae’r erthygl hon yn cynnwys gwybodaeth am hunan-niweidio a all eich atgoffa o deimladau anodd. Cysylltwch gyda’ch meddyg teulu i gael cymorth, ac os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid (llinell Gymraeg: 0808 164 0123, 7pm-11pm; llinell Saesneg: 116 123, 24/7), neu’r gwasanaethau brys ar 999.

Mae bron i chwarter o ferched 14 oed yn hunan-niweidio, yn ôl adroddiad gan Gymdeithas y Plant.

Yn sgil arolwg o 11,000 o blant ar hyd y Deyrnas Gyfunol, mae’r elusen wedi darganfod bod y broblem yn waeth ymhlith merched nag ymhlith bechgyn – gyda dwywaith yn fwy o ferched yn hunan-niweidio. Mae’n debyg bod y broblem ar ei gwaethaf ymhlith plant sy’n hoyw, lesbiaidd neu’n ddeurywiol – dywedodd 46% o’r grŵp yma eu bod wedi hunan-niweidio. Yn ôl yr adroddiad mae stereoteipio rhywedd a phoeni am ddelwedd yn cyfrannu at anhapusrwydd.

Mae’r ystadegau hunan-niweidio wedi’u cynnwys yn Adroddiad Plentyndod Da blynyddol yr elusen, sy’n archwilio cyflwr lles plant yn y DG. Dadansoddwyd y data ar hunan-niwed gan Gymdeithas y Plant ar ôl iddo gael ei gasglu yn 2015 yn Astudiaeth Carfan y Mileniwm, sef prosiect ymchwil parhaus sy’n dilyn bywydau 19,000 o blant a anwyd yn y DG rhwng 2000 a 2001. Atebodd mwy na 11,000 o’r plant hyn holiadur ynghylch a oeddent wedi anafu eu hunain ar bwrpas mewn unrhyw ffordd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. O’r 5,624 o ferched a ymatebodd, dywedodd 1,237 eu bod wedi niweidio eu hunain.

Hunan-niwed yw pan fydd pobl yn anafu eu hunain fel ffordd o ymdopi â theimladau anodd, atgofion poenus neu sefyllfaoedd a phrofiadau llethol.

Yn seiliedig ar yr ystadegau hyn, mae Cymdeithas y Plant yn amcangyfrif bod 109,000 o blant 14 oed ar draws y DG wedi hunan-niweidio yn ystod 2015 – 76,000 o ferched a 33,000 o fechgyn.

“Mae’r ffaith bod cymaint o blant yn hunan-niweidio oherwydd eu bod yn anhapus, yn destun gofid,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas y Plant, Matthew Reed.

“Mae llawer o blant, yn enwedig merched, yn pryderu’n fawr am y ffordd maen nhw’n edrych. Ond, mae’r adroddiad yma yn dangos bod ffactorau eraill – teimladau ynglŷn â’u rhywioldeb a rhyw, er enghraifft – yn cyfrannu at eu hanhapusrwydd.”

Mae’r NSPCC yn dweud bod rhesymau cyffredin dros hunan-niweidio yn cynnwys:

  • iselder
  • bwlio
  • pwysau yn yr ysgol
  • cam-drin emosiynol
  • galar
  • problemau perthynas â theulu neu ffrindiau

Dywedodd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant fod iechyd meddwl yn “un o’r epidemigau iechyd mwyaf ein hoes. Nid yw argyfwng iechyd meddwl yn mynd i ddiflannu dros nos ond gyda gweithredu priodol gan y llywodraeth mae gobaith y bydd llai o blant yn profi problemau iechyd meddwl ac yn hapusach â’u bywyd o ganlyniad”

Beth all oedolion ei wneud i helpu plentyn sy’n hunan-niweidio:

  • Dangoswch eich bod yn deall
  • Trafodwch y mater
  • Dewch o hyd i’r ‘triggers’
  • Helpwch iddynt godi eu hyder
  • Dangoswch eich bod yn ymddiried ynddynt
  • Dewiswch y bobl yr ydych yn dweud wrthynt yn ofalus
  • Helpwch nhw i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi

Sut i adnabod yr arwyddion

Chwiliwch am arwyddion corfforol megis toriadau, cleisiau, llosgiadau a mannau moel o ganlyniad i dynnu gwallt. Mae’r rhain yn gyffredin ar y pen, y garddyrnau, y breichiau, y cluniau a’r frest.

Mae’r arwyddion emosiynol yn anoddach i’w gweld:

  • iselder
  • crio’n hawdd a chymhelliant isel
  • bod yn dawel ac yn ynysig, er enghraifft, os ydynt am fod ar eu pennau eu hunain yn eu hystafell wely am gyfnodau hir
  • lleihau neu gynyddu mewn pwysau yn sydyn
  • hunan-barch isel a beio eu hunain
  • yfed neu gymryd cyffuriau

[Ffynonellau: BBC a Golwg360]

Dolenni allanol