Ambiwlans: ‘Delio mwy â hunan-niweidio na thrawiadau’ : BBC Cymru Fyw
Mae’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn dweud eu bod yn cael eu galw i lawer mwy o achosion o hunan-niweidio nag achosion o drawiadau neu anafiadau difrifol.
Wrth roi tystiolaeth i bwyllgor iechyd y Cynulliad, dywedodd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bod angen rhagor o hyfforddiant ar staff ambiwlans i allu delio ag achosion o’r fath.
Mae gwaith ymchwil diweddar gan y gwasanaeth wedi canfod:
- Bod tua 5% o alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans yn ymwneud â hunan-niweidio, ffigwr “llawer uwch na galwadau i anafiadau difrifol a thrawiadau gyda’i gilydd”;
- Bod rhai unigolion yn osgoi defnyddio gwasnaethau rhag ofn iddyn nhw gael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.