ADOLYGIAD: ‘Rhyddhau’r Cranc’ – Malan Wilkinson (y Lolfa, 2018)
Aeth Arddun Rhiannon ati i adolygu llyfr Rhyddhau’r Cranc gan Malan Wilkinson, sy’n cynnwys atgofion Malan sydd wedi byw â chyflyrau iechyd meddwl ers blynyddoedd, ar gyfer gwefan Y Lolfa.
Rwyf wedi dilyn hanes Malan Wilkinson ers peth amser erbyn hyn, felly fel y gallwch ddychmygu, roeddwn ar ben fy nigon o glywed bod Malan yn brysur ysgrifennu a bod llyfr, a fyddai’n trafod ei thaith a’i phrofiadau personol o fyw gyda salwch meddwl, ar y ffordd.
‘Mae’n siarad o’r galon, a gwneud hynny yn ddidwyll a dynol’
Mewn sgwrs gyda Ffion Dafis yng Ngŵyl Tafwyl eleni, dywedodd Malan ei bod hi wedi mynd ati’n fwriadol i geisio ysgrifennu rhywbeth a oedd yn hawdd i’w ddarllen, ac mae hi wedi llwyddo i wneud hynny, yn sicr. Nid ymgais sydd yma i greu darn o ysgrifennu llenyddol, yn hytrach mae’n siarad o’r galon, a gwneud hynny yn ddidwyll a dynol. Mae’r gyfrol wedi ei rhannu i benodau byrion, pob un yn croniclo unai cyfnod, persbectif neu brofiad arbennig yn ei bywyd. Braf hefyd oedd gweld cynnwys lluniau personol sy’n cyfleu agosatrwydd cymeriad Malan, a phwysigrwydd teulu a ffrindiau.
Cawn fewnwelediad ingol i’r profiadau brofodd Malan yn ystod ei hieuenctid hyd at y presennol. Er bod cynnwys y gyfrol yn trafod sawl mater dwys, megis colli anwyliaid, ei rhywioldeb, ei chyfnodau o seicosis, nid trwm yw’r ysgrifennu i gyd. Mae digon o hiwmor yma, a Malan yn ymwybodol bod angen y dwys a’r doniol, fel ei gilydd.
‘Mae’n dangos y pŵer anhygoel gall anifeiliaid ei gael ar ein hiechyd meddwl’
Yn bersonol, un o’m hoff benodau yw’r un pan sonia Malan am ei chyfaill annwyl, Wini Llwyd – ci defaid trilliw sydd wedi bod wrth ei hochr ers cwpl o flynyddoedd. Mae’n dangos y pŵer anhygoel gall anifeiliaid ei gael ar ein hiechyd meddwl, ac fel dywed Malan:
“Heb drio, mae Wini wedi sicrhau ’mod i’n dechrau fy niwrnod gyda gwȇn, sy’n beth prin pan dwi mewn lle gwael.”
O ddarllen am anturiaethau y ci ffyddlon hwn, a’r berthynas arbennig sy’n bodoli rhyngddi a Malan, dwi’n meddwl bod pawb angen rhyw ffurf o Wini Llwyd yn eu bywydau!
‘Hoffwn ddiolch i Malan am y gyfrol hon’
Rhaid dweud i mi garu darllen y bennod olaf ond un – ‘Gwersi Bywyd’. Yma, cyflwynir saith gwers sy’n crynhoi yn syml ac yn ddoeth, y pethau mae Malan wedi’u dysgu sy’n bwysig i gadw gafael arnyn nhw wrth fynd trwy dy fywyd.
Hoffwn ddiolch i Malan am y gyfrol hon. Afraid dweud nad yw agor hen grachau byth yn beth hawdd i’w wneud, ac fel mae Malan ei hun wedi cyfaddef, mi oedd gwneud hynny yn boenus ar brydiau. Diolch am fod mor agored, am rannu dy frwydr, am ein haddysgu ynghylch cyflwr Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (BPD) a dod a phwnc sy’n dabŵ yn ein cymdeithas allan i’r awyr agored.
Heb os, mi fyswn i’n argymell i bawb gael gafael ar Rhyddhau’r Cranc.
Arddun Rhiannon