Nifer o oedolion ddim yn gwybod arwyddion anhwylderau bwyta : BBC
Darganfu arolwg gan YouGov na allai traean o oedolion enwi symptomau seicolegol anhwylderau bwyta, megis hunan-barch isel neu dysmorffia’r corff.
Dywedodd yr elusen anhwylderau bwyta, Beat, bod cysylltiad rhwng diffyg ymwybyddiaeth o arwyddion cynnar cyflyrau megis anorecsia a bwlimia, ac oedi cyn triniaeth a risg gynyddol o’r salwch yn dod yn beryg bywyd.
Dywed yr elusen Beat mai’r prif arwyddion i edrych amdanynt yw:
- Datblygu obsesiwn â bwyd
- Newid mewn ymddygiad
- Dysmorffia’r corff
- Blinder ac anhawster canolbwyntio
- Diflannu i’r tŷ bach ar ôl prydau bwyd
- Dechrau gwneud ymarfer corff yn ormodol
Os ydych chi’n poeni am rywun agos atoch, siaradwch â nhw a’u hannog i fynd i weld eu meddyg teulu.