1 ym mhob 6 person sydd â phroblem ariannol yn meddwl am hunanladdiad

Mae ymchwil newydd gan Mental Health UK wedi canfod fod 1 ym mhob 6 person sydd wedi profi problemau ariannol (16%) hefyd wedi profi teimladau’n ymwneud â hunanladdiad yn sgil hyn.

Dywedodd Brian Dow, Rheolwr Gyfarwyddwr Mental Health UK:

“Mae’r ffigyrau yma yn dangos y cylch dieflig sy’n cael ei chreu yn sgil problemau iechyd meddwl ac ariannol. Mae pobl yn teimlo cywilydd a’u bod wedi eu hynysu; nid ydynt yn gwybod ble i fynd am help. Maent yn ceisio  delio gyda theimladau o straen, dicter ac iselder ac mae hyn yn arwain at wneud pethau afiach megis ysmygu ac yfed. Wrth gwrs, mae hyn ond yn gwneud pethau yn waeth a dyma sut y mae pethau’n gwaethygu Fel y mae’r ymchwil yn dangos, mae hyn yn medru arwain at deimladau o hunanladdiad.”

Darllen rhagor : Iechyd Meddwl Cymru