Colli…Cwsg?

Mae hi wedi bod yn ddeuddydd nawr. Dau ddiwrnod ble nad yw’r ymennydd yn gallu mynd yn ôl i’w statws lleddf, niwtral achos mae yna ddigwyddiad mawr wedi ypsetio’r hormonau sy’n ymgasglu yn y corff o bryd i’w gilydd pan mae bywyd beunyddiol wedi newid.

Dau ddiwrnod o syllu yn fwyfwy gaeth i’r we i weld y diweddara ar y cyflwr.  Peidiwch byth edrych ar y we i gael hyd i fwy o wybodaeth ar gyflwr medde nhw, ond sut arall yn y byd ma dyn fod dod i hyd i docyn i gêm fawr Cymru?

Enghraifft gyffredin sydd yma o’r corff yn effeithio ar feddylfryd dyn achos newidiadau i amgylchedd y byd allanol sydd yn eu tro yn cael effaith ar y byd mewnol: ac er pob dim mae timau Cymru yn dweud ynghylch y Wal Goch sydd yn eu gyrru ymlaen, dim ond y cefnogwyr mwyaf brwd sydd yn dueddol o gredu bod eu hymddygiad allanol nhw – o godi’r gynnar yn gyffro i gyd, i ddewis pa sanau i wisgo ar ddiwrnod o hoe i’r hogia – yn mynd i gael unrhyw effaith ar allbwn a chanlyniad y gêm nesaf.

Enghraifft felly o golli cwsg yn ddiangen, yn ‘poeni’ am bethau sydd i bob pwrpas allan o gwmpas cyfrifoldeb yr unigolyn – ond eto i gyd gofynnwch i beldroediwr pa mor hawdd ydy hi i gysgu ar ôl y gêm, yn arbennig gem ble maen nhw wnaeth methu’r cyfle euraidd.

Gallwn ni fel dioddefwyr iechyd meddwl – a dwi’n cynnwys unrhywun sy’n darllen y darn hwn yn y cyfystyr yma gan fod hi’n anochel bod pob un ohonom yn mynd i golli cwsg neu gael profiad o iselder yn ystod ein bywydau modern, hir – ddysgu llawer oddi wrth ymddygiad peldroedwyr (os nad cricedwyr Lloegr!) i wella ein hamgylchiadau byw:

Canolbwyntio yn unig ar yr hyn gallwn ni effeithio.

Dydw i ddim yn credu nad yw Wayne Rooney neu Ben Davies hyd yn oed yn amau gallu a dewisiadau eu hunain o dro i dro, ond beth mae pob chwaraewr peldroed ar y lefel uchaf yn gallu gwneud yw canolbwyntio dim ond ar y pethau maent yn gallu effeithio – felly mae’r ystrydeb flinedig o’r “gêm nesaf sy’n bwysig ac sy’n cyfri” ddim yn un diog, difeddwl ond yn hytrach yn ddarn allweddol o’u grym seicolegol fel penigampwyr ac un hoffwn i fachu i’r sector iechyd meddwl.

Creu delwedd glir o lwyddiant

Eto, nid seicoleg ‘pop’ yn unig yw hyn: os na fydd Gareth Bale yn meddwl yn ddwys am sut yn union i greu’r amgylchiadau gorau o gicio pêl dros wal – neu res – o wrthwynebwyr i gornel y rhwyd, yn amlwg ni fydd ganddo’r gallu i wneud hynny. O athrawon i ddoctoriaid, o ddynion tân i ddynion busnes, mae’n angenrheidiol i’r corff a’r meddwl i ganolbwyntio ar y llwyddiannau sydd ar y gorwel ac nid ond gor-feddwl y methiannau di-ri a fu. (Gan gofio bod pob peldroediwr – bachgen neu ferch wedi arfer gyda methiannau yn wythnosol, rhai ohonynt gyda’r holl fyd yn gwylio).

Amser i ymlacio

Pan mae yna gêm bwysig nos Wener ac un arall nos Lun, mae’r amser prin sydd gan unigolyn sydd yn chwarae dros ei g/wlad yn hollbwysig o ran paratoi’r corff a’r meddwl i lwyddo eto. Yn reit aml fe fyddai’n atgoffa’r plant bod y gallu i lwyr ymroi i ymlacio yn hollbwysig i lwyddiant – boed hynny trwy chwarae gemau cyfrifiadur (er efallai nid i’r pwynt o obsesiwn a lwyddais i gyrraedd yn ystod fy ngyrfa coleg) neu yn well byth, gweithgaredd mwy corfforol fel siopa neu goginio.  A dwi’n dweud hynny wrth y plant yn ddiffuant – y gallu i ymlacio sy’n caniatai yr amgylchiadau i lwyddiannau pellach, yn fwy na dim byd arall yn fy marn i.

insomnia

Dyna chi air i godi ofn ar unrhywun, o chwaraewraig ryngwladol i weithwyr shifft.  Mae’n gyfnod reit ddu yn eironig – pan dydych chi ddim wir wedi blino achos – fel ceisiais ddisgrifio yn y paragraff agoriadol uchod neu fel mae tweet the Barry Horns yn cyfleu wedi canlyniad cadarnhaol, dydi’r corff ddim yn gadael i chi gael llonydd am eiliad.  Felly cyfnod anodd, amhleserus fel mae unrhywun sy’n cofio cyfnod o chwe mis ble nad oedd cwsg yn dod yn hawdd yn galu cadarnhau – a dwi ddim am rannu manylion y profiad munud-wrth-funud o’r meddwl yn perfrio tan yn ffrio a ffraeo a’i hunan ar flog cyhoeddus.  Wel, does gen i ddim y lle i wneud hynny fan hyn ta beth, mae’n gyflwr di-ddiwedd yn ogystal â llwm.

At bwy i droi at gymorth? Doeddwn i ddim yn sicr.  Doeddwn i ddim am fynd at y doctor.  Doeddwn i ddim eisiau dechrau edrych ar y we chwaith, dim bod yna we ar gael y tro cyntaf imi beidio cysgu am gyfnod. Rydw i’n rhannu efo chi heddiw am amryw o resymau:

  • ‘Pe bai’ yna wefan yn Gymraeg sydd yn cynnig datrysiadau i broblemau iechyd meddwl cyffredin, yna buasai sefydliadau addysg yn gallu cynghori pobl ifanc i edrych am dermau Cymraeg megis ‘dim cwsg’ ar y we er mwyn darllen am brofiadau eraill.  Syniad da iawn fi’n meddwl!
  • Efallai bydd fy mhlant i yn dioddef o ddiffyg cwsg un diwrnod, efallai bydden nhw am ddarllen hyn trwy argymhelliad, gan nodi yn amlwg na fydden nhw fel arfer yn cymryd gair o gyngor gennyf oni bai bod arian poced yn sownd yn y pecyn – a gyda llaw wir i Dduw er cymaint mae rhieni yn cwyno yn gyffredinol am blant yn achosi diffyg cwsg iddynt does dim byd fel cael plant i sicrhau’r blinder corfforol angenrheidiol am noson dda o gwsg!
  • Annhebyg byddai’n diolch i bawb dwi’n cofio a wnaeth gofyn ac o’n i’n “iawn” pan oeddwn i yn dioddef problemau iechyd meddwl ac yn anfodlon i gyfaddef hynny oherwydd nad oedd y gymdeithas wedi datblygu i’r fath raddau ag yw hi nawr ( a hynny mor gyflym hefyd diolch i drydar arloesol @gwefanmeddwl ac eraill sy’n fwy gonest na fi) ond efallai bod hyn yn gyfle i gydnabod yn gyhoeddus bod hyd yn oed derbyn y consyrn real yna wedi bod yn hwb imi yn yr hir-dymor er nad oeddwn i yn gallu ymateb yn fwy na “iawn, ie” ar y pryd – oherwydd y bobl yna sy’n cadw chi i fynd pan rydych chi wedi cyrraedd eich pwynt fwyaf isel yw’r un rhai ry chi yn naturiol yn cadw mewn cof pan ddaw’r ci du y tro nesaf.

Gen i ambell i ddatrysiad sy’n gweithio – heblaw cael plant – pan nad yw eich meddwl yn distewi:

1. Darllenwch – dim ots beth, i raddau rhywbeth diflasach na hyn os yn bosib;  gan gofio bod rhywbeth ar bapur ddim yn mynd i arwain at y temtasiwn o ddarllen pethau sy’n eich corddi ar y cyfryngau cymdeithasol.

2. Ymarfer corff – hollbwysig. Ry chi wedi darllen hyn o’r blaen.  Os chi ddim yn siŵr  ble i ddechrau efallai mi ddylech chi osgoi’r car am wythnos a gweld ble mae hynny yn eich gadael chi.

3. Rhowch amser i glirio’r meddwl. – bydd yna ambell i beth o’r diwrnod bydd eich meddwl am ofidio amdanynt, mae’n naturiol i hyn redeg yn eich pen ond unwaith ry chi wedi meddwl am ddatrysiad posib, ymlaen i’r cam nesaf. Sef:

4. Ewch i’ch ogof: unwaith ry chi am geisio i gysgu, mae angen ymddwyn yn fwy na hen ffasiwn, felly pan mae’r signal clir yn dod o’ch corff eich bod ar fin cysgu – yn aml bydd hyn gydag allbwn corfforol wrth i’ch meddwl rhoi’r arwydd i’r corff (neu’r cwestiwn)  i weld a yw hi’n ddiogel i gysgu.  Gelwir hyn yn ysgwydad Hypnic, debyg! Wedi hyn, rhaid caniatai cwsg.

5. Os nad yw cwsg yn dod yn hawdd o fewn 20 munud o geisio cysgu, peidiwch trafferthu trio eto, ewch yn ol i rif 1 gyda bach o gerddoriaeth glasurol neu fel y mynnwch chi.

Fe ddaw yn y diwedd, a pan ddaw, peidiwch ddioddef hunllefau! Ond blog arall ydy hwnnw…

Di-enw