Pobl Hŷn

Gall y broses o fynd yn hŷn a’r digwyddiadau mewn bywyd yn ystod y cyfnod hwn achosi gorbryder neu iselder – mae marwolaeth anwylyn, ymddeol, unigedd, anawsterau ariannol, neu broblemau iechyd cyfredol yn enghreifftiau o hyn.

Bydd un o bob pump o bobl hŷn sy’n byw yn y gymuned a dau o bob pump o bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal yn dioddef o iselder neu iechyd meddwl gwael.

Mae ymchwil yn dangos bod pum mater allweddol sy’n gallu cael effaith ar les meddyliol pobl hŷn:

  • Gwahaniaethu
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon
  • Perthnasoedd
  • Iechyd corfforol
  • Tlodi

Byddwch yn barod am newidiadau

Mae mynd yn hŷn ac ymddeol yn golygu llawer o newid o ran dull byw i’r rhan fwyaf o bobl.

Siarad am broblemau a phryderon

Mae rheoli problemau, anawsterau a phryderon yn dod yn haws os byddwn yn siarad amdanynt. Mae’n ffordd dda o roi trefn ar ein meddyliau a gwneud synnwyr o sefyllfa neu o sut rydym yn teimlo. Gall wneud i ni deimlo fel ein bod yn cael ein cefnogi ac nad ydym ar ein pennau ein hunain.

Profiad Cymdeithasol

Mae rhannu bwyd neu ddiod yn ddigwyddiad cymdeithasol pleserus. Dylech sicrhau ei fod yn rheswm i gwrdd a ffrindiau, hyd yn oed os mai dim ond mater o gael paned yn y caffi lleol ydyw. Gall fod yn anodd bwyta’n iawn pan fyddwch yn ymdopi a phrofedigaeth, yn enwedig os nad ydych yn gyfarwydd a choginio ar gyfer un person neu a pharatoi prydau bwyd o gwbl. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bosibl y bydd eich emosiynau’n cael effaith ar eich chwant am fwyd. Derbyniwch gynigion gan ffrindiau a theulu i fwyta gyda nhw. Edrychwch i weld a oes unrhyw glybiau amser cinio sy’n rhedeg yn eich ardal, efallai fel rhan o grŵp darllen neu grwpiau diddordeb eraill.

Gwneud y pethau rydych yn eu mwynhau

Mae gwneud y pethau rydym yn eu mwynhau yn peri i ni deimlo’n dda amdanom ni ein hunain; ac at hynny, mae’n gallu cadw ein meddwl a’n corff yn weithgar. Beth bynnag byddwn yn galw arnynt, gall diddordebau, hobiau a difyrion roi cyfle i gymdeithasu, neu i neilltuo amser i ni ein hunain.

Ymlacio a chymryd hoe

Er ei bod yn bosibl y bydd pobl eraill yn meddwl bod bywyd wedi ymddeol neu wedi lled ymddeol yn wyliau parhaol, mae’r gwirionedd yn wahanol. Mae pethau y mae angen eu gwneud o hyd, megis glanhau, trwsio’r car, gwaith papur yn ymwneud ag arian a siopa. Hefyd, mae’n bosibl y bydd gennym gyfrifoldebau newydd er enghraifft bod yn ofalwr.

Darllen rhagor : ‘Sut i ofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch yn hŷn’ – Y Sefydliad Iechyd Meddwl