Niwrowahaniaeth
Neurodivergence
Lluniwyd y wybodaeth hon gan Vicky Powner ac unigolion niwrowahanol eraill.
Disgrifiad
Niwroamrywiaeth: yr amrywiaeth o wahaniaethau yn y ffordd y mae pobl yn amgyffred, prosesu ac yn rhyngweithio â’r byd.
Niwrowahaniaeth: term ymbarél ar gyfer niwroteipiau lleiafrifol, pan fydd person yn prosesu, yn dysgu, yn cyfathrebu, yn teimlo a / neu’n ymddwyn yn wahanol i’r hyn a ystyrir yn ‘debygol’. Nid oes angen i unigolyn gael diagnosis swyddogol i uniaethu fel person niwrowahanol.
Mae niwrowahaniaethau yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
- Awtistiaeth
- Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
- Dyslecsia
- Dyspracsia
- Dyscalcwlia
- Syndrom Tourrette
Terminoleg
| Saesneg | Cymraeg | Esboniad |
| Neurodivergence | Niwrowahaniaeth | Term ymbarél ar gyfer niwroteipiau lleiafrifol.
Pan fydd ymennydd rhywun yn prosesu, yn dysgu, a / neu’n ymddwyn yn wahanol i’r hyn a ystyrir yn ‘debygol’. |
| Neurodivergent | Niwrowahanol | Unigolion neu grŵp o bobl sydd â niwroteipiau lleiafrifol (e.e. awtistiaeth, ADHD, dyslecsia, ayb).
E.e., “Rydw i’n niwrowahanol”, “Maen nhw’n niwrowahanol” |
| Neurodiverse | Niwroamrywiol | Mae ‘niwroamrywiol’ yn ansoddair i ddisgrifio grŵp sy’n cynnwys pobl niwrodebygol yn ogystal â phobl niwrowahanol.
I fod yn ‘niwroamrywiol’, mae angen i grŵp o bobl gynnwys o leiaf dau niwroteip gwahanol – e.e. dau berson awtistig ac un person niwrodebygol. Yn ogystal, mae ‘niwroamrywiol’ yn enw ar grŵp o bobl, ac ni all person fod yn ‘niwroamrywiol’. |
| Neurodiversity | Niwroamrywiaeth | Mae ‘niwroamrywiaeth’ yn cynnwys pawb – pobl niwrowahanol a niwrodebygol. |
| Neuroaffirming | Niwrogadarnhaol | Term sy’n cydnabod ac yn dilysu bod gwahaniaethau yn y ffordd y mae ymennydd pobl yn gweithio; h.y. bod pobl niwrowahanol yn amrywiadau naturiol, yn hytrach na diffygion y mae angen eu ‘gwella’ neu eu ‘cywiro’. Mae’n pwysleisio, deall a pharchu anghenion synhwyraidd unigol ac yn darparu cymorth, heb orfodi person i orfod cydymffurfio â safonau niwrodebygol. |
| Neurotype | Niwroteip | Mae ‘niwroteip’ yn cyfeirio at nodweddion niwrolegol a seicolegol unigryw unigolyn, gan gynnwys amrywiadau yn y meddwl, ymddygiad, a phrosesu synhwyraidd. |
| Neurotypical | Niwrodebygol / Niwronodweddiadol | Unigolion y mae eu niwroteip yn cael ei ystyried yn ‘debygol’ – y niwroteip mwyaf cyffredin.
Noder mai ‘niwrodebygol’ yw’r term sy’n cael ei ffafrio gan y gymuned niwrowahanol. |
Geirfa
| Saesneg | Cymraeg |
| Mask | Masgio |
| Overstimulation | Gorgyffroi |
| Reasonable adjustments | Addasiadau rhesymol |
| Shutdown | Cau lawr |
| Spectrum | Sbectrwm |
| Traits | Nodweddion |
| Understimulation | Tangyffroi |
Sut i siarad am Niwrowahaniaeth?
| Yn hytrach na… | Defnyddiwch… | Pam? |
| ASD,
Anhwylder y Sbectrwm Awtistiaeth |
Awtistiaeth,
Y sbectrwm awtistiaeth |
Dylid osgoi defnyddio byrfoddau fel ASD.
Er mai ‘Anhwylder y Sbectrwm Awtistiaeth’ yw’r ffordd swyddogol o ddisgrifio awtistiaeth, mae nifer o bobl awtistig a’u teuluoedd yn teimlo bod y term ‘anhwylder’ yn rhy negyddol, ac yn cyfeirio at awtistiaeth fel petai’n salwch. |
| Person gydag awtistiaeth | Person awtistig,
Person ar y sbectrwm awtistiaeth
|
Mae nifer o bobl awtistig yn gweld awtistiaeth fel rhan o bwy ydyn nhw, yn hytrach na rhywbeth ar wahân.
Mae ymchwil yn dangos nad oes un ffordd sy’n cael ei dderbyn gan bawb. Fodd bynnag, ‘awtistig’ ac ‘ar y sbectrwm awtistiaeth’ oedd y termau a ffafriwyd gan y rhan fwyaf o oedolion a theuluoedd awtistig. Mae ‘person gydag awtistiaeth’ yn dal i gael ei ddefnyddio’n eang, ond mae mwyfwy o bobl yn ei wrthwynebu. |
| Dioddef o awtistiaeth | Awtistig,
Ar y sbectrwm awtistiaeth |
Mae llawer o bobl a theuluoedd awtistig yn teimlo bod ‘dioddef’ yn dibrisio pwy ydyn nhw, neu yn dweud bod rhywbeth o’i le arnynt. |
| Awtistiaeth ysgafn / difrifol,
Gweithredu lefel uchel / isel (‘high / low functioning’)
|
Awtistig,
Ar y sbectrwm awtistiaeth, Person awtistig sydd ag anghenion uchel / isel, Awtistig gyda / heb anabledd dysgu.
|
Mae defnyddio gweithredu uchel neu isel yn ddryslyd a chamarweiniol, ac nid yw llawer o bobl a theuluoedd awtistig yn ei hoffi.
Mae llawer o bobl awtistig heb anabledd dysgu yn wynebu anawsterau mawr, ac nid yw ‘gweithrediad uchel’ yn adlewyrchu hyn. Mae’n well gan nifer o bobl awtistig gyfeirio at ‘anghenion gwahanol’. |
| Syndrom Asperger | Awtistiaeth | Dim ond pan fyddwch chi’n siarad am rywun sydd â’r diagnosis hwn y dylech ei ddefnyddio. Nid yw pobl bellach yn cael diagnosis o syndrom Asperger. Ni ddefnyddir y term bellach oherwydd cysylltiadau Hans Asperger, yr enwyd Asperger ar ei ôl, â’r Natsïaid. |
| Symptomau | Nodweddion | Mae ‘symptomau’ yn rhoi’r argraff mai salwch yw awtistiaeth. |
| Cyflwr | Amhariad,
Gwahaniaeth |
Gwahaniaeth yn hytrach na chyflwr yw awtistiaeth. |
| Triniaeth | Cefnogaeth,
Addasiadau |
Mae geiriau fel ‘trin’ yn golygu y gallai pobl feddwl bod awtistiaeth yn glefyd y gellir ei ddileu neu ei wella. Gyda chymorth a/neu addasiadau rhesymol, mae llawer o bobl awtistig yn byw bywydau annibynnol. |
Gwahaniaethau Cyffredin
Dylid cofio bod pob person niwrowahanol yn wahanol a bydd proffil pawb yn amrywio, ond dyma rai gwahaniaethau cyffredin y gwelir mewn pobl niwrowahanol, a heriau posib a wynebir.
Gwahaniaethau Prosesu Synhwyraidd: Gall pobl niwrowahanol brofi sensitifrwydd uwch neu lai i oleudau, synau, arogleuon neu weadau. Gall amgylcheddau swnllyd, goleuadau llachar, neu ffabrigau penodol wneud unigolion yn anghyfforddus a gall sbarduno’r angen i hunan-leddfu trwy symudiadau corfforol ailadroddus, a elwir yn “stimming”.
Amrywiadau gyda Sgiliau Gweithredol Goruchwyliol (executive function skills): Prosesau meddyliol sy’n caniatáu i ni gynllunio, canolbwyntio, cofio cyfarwyddiadau a jyglo amrywiaeth o dasgau yn llwyddiannus yw Sgiliau Gweithredol Goruchwyliol (Executive Functioning Skills). Hynny yw, y sgiliau sy’n ein helpu i allu gwneud ein tasgau dyddiol. Yn aml, caiff pobl niwrowahanol anawsterau gyda’r sgiliau hyn oherwydd eu bod yn cael eu gorlethu yn haws. Er hyn, yn aml caiff hyn ei baru â’r gallu eithriadol i allu gor-ffocysu – h.y. canolbwyntio dwys, dwfn ar bynciau neu dasgau sydd o ddiddordeb uchel.
Arddulliau Cyfathrebu Amgen: Mae pobl niwrowahanol yn aml yn cyfathrebu yn uniongyrchol, yn llythrennol ac yn onest. Gall unigolion osgoi siarad, neu beidio â dilyn arwyddion cymdeithasol traddodiadol, gan ddod o hyd i ffyrdd amgen neu arbenigol iawn o gysylltu.
Angerdd Dwys a Moesau Cryf: Yn aml, mae pobl niwrowahanol yn rhoi ffocws dwfn ar “ddiddordebau arbennig”. Mae hyn ochr yn ochr ag ymdeimlad cryf o gyfiawnder a thegwch sy’n aml yn arwain at eiriolaeth gref dros yr hyn sy’n iawn.
Prosesu Gwybodaeth Unigryw: Mae gan bobl niwrowahanol gyflymder neu ddull gwahanol iawn o brosesu gwybodaeth. Mae llawer o unigolion niwrowahanol yn rhagori ar feddwl am y darlun mawr. Maent hefyd yn aml yn rhagori trwy ddatrys problemau mewn ffurf sy’n wahanol i’r disgwyl (tu allan i’r bocs), ac yn aml yn gallu tynnu cysylltiadau am bethau y gallai eraill eu colli.
Heriau posib
- Prosesu gwybodaeth
- Sgiliau gweithrediad goruchwyliol (executive function skills)
- Gorflino o fasgio
- Heriau synhwyraidd
- Anhawster rheoli emosiynau
- Angen strwythur a threfn
- Gwahaniaethau mewn sefyllfaoedd cymdeithasol
Cryfderau posib
- Gonestrwydd
- Creadigrwydd
- Sylwi ar batrymau
- Brwdfrydedd
- Gallu gor-ffocysu ar bynciau o ddiddordeb
- Sylw i fanylder
- Gwybodus ar bynciau o ddiddordeb
- Gweld rheolau a chyfiawnder yn bwysig
Meddyliau a theimladau cysylltiedig
Dysfforia Sensitifrwydd Gwrthodiad (Rejection Sensitivity Dysphoria): Poen emosiynol a chorfforol eithafol a llethol a sbardunir gan y teimlad o gael eich wrthodiad, beirniadaeth neu fethiant, gwirioneddol neu ganfyddedig. Mae’n gyffredin mewn unigolion niwrowahanol, yn enwedig rhai ag ADHD. Mae’r teimladau hyn yn aml yn teimlo’n anghymesur ac yn annioddefol, ac yn aml yn amlygu fel ffrwydradau emosiynol sydyn neu ymddygiadau osgoi sy’n parlysu.
Cam-reoleiddio Emosiynau / Alexithymia – Yr anallu i reoli dwyster a hyd ymatebion emosiynol. Gall achosi teimladau i fod yn llethol iawn, yn anrhagweladwy, neu’n anghymesur â’r sefyllfa. Yn hytrach na “hwylio’r tonnau” o emosiwn, gall unigolion brofi newidiadau hwyliau dwys, ffrwydradau blin, neu weithiau, maent yn ‘cau lawr’ eu hemosiynau yn sydyn. Mae Alexithymia yn disgrifio’r anhawster difrifol i brofi, adnabod, disgrifio a phrosesu emosiynau.
Iechyd Meddwl
Nid yw niwrowahaniaethau yn brofiadau iechyd meddwl, ond mae llawer o orgyffwrdd rhyngddynt. Mae unigolion niwrowahanol yn aml yn fwy tebygol o brofi heriau iechyd meddwl fel gorbryder neu iselder oherwydd straen cronig o lywio byd a adeiladwyd ar gyfer ymennydd “niwrodebygol”.
- Mae 70 – 80% o bobl awtistig yn profi cyflyrau iechyd meddwl
- Mae bron 50% o oedolion sydd ag ADHD yn profi iselder, tra bod 53% yn profi gorbryder
- Mae 70% o bobl niwrowahanol yn profi anawsterau iechyd meddwl yn y gweithle
Sut gallwch chi gefnogi person niwrowahanol?
Er bod pob person yn wahanol, dyma rai pethau y gellir ystyried er mwyn gwneud bywydau pobl niwrowahanol yn haws. Mae ychydig o gefnogaeth yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.
- Gwrando heb farnu – Yn aml, gall pobl niwrowahanol deimlo eu bod yn cael eu camddeall neu eu gadael allan. Byddwch yn barod i wrando arnyn nhw. Gadewch iddyn nhw wybod eich bod chi’n eu clywed ac yn eu parchu nhw a’u dewisiadau.
- Cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n helpu – Weithiau, mae’n well gan bobl sy’n niwrowahanol gyfathrebu yn ysgrifenedig fel negeseuon personol (instant messaging), negeseuon testun neu e-bost yn hytrach na galwad ffôn neu sgwrs wyneb yn wyneb. Rhowch yr amser a’r offer sydd eu hangen arnynt i gyfathrebu.
- Cofio nad oes dau berson niwrowahanol yr un fath – Gall personoliaethau a dewisiadau pobl niwrowahanol fod yn wahanol iawn, hyd yn oed pan fydd ganddynt yr un niwroteip sylfaenol.
- Peidio â chymryd yn ganiataol bod rhywun yn analluog neu’n anneallus – Mae gan bobl niwrowahanol gyflyrau neu ddewisiadau sy’n gwneud iddynt sefyll allan neu ymddangos yn wahanol. Peidiwch â’u barnu.
- Parchu pawb – Gallwch normaleiddio sgyrsiau a darparu addasiadau sy’n cymeradwyo gwahaniaethau pobl fel peth da.
- Cyfathrebu yn glir
- Bod yn amyneddgar
- Bod yn hyblyg
- Parchu gofynion synhwyraidd
- Dysgu am nodweddion niwroteipiau lleiafrfol
Syniadau hunan ofal i bobl niwrowahanol:
- Blaenoriaethu cwsg
- Creu strwythur
- Gosod ffiniau
- Cael amser tawel
- Dod i ddeall ac adnabod eich hun
- Bod yn garedig ac amyneddgar gyda’ch hun
- Gwneud, a gofyn am, addasiadau
- Treulio amser yn gwneud diddordebau arbennig
Cymorth a dolenni
Niwrowahaniaeth
ADHD
Awtistiaeth
- National Autistic Society
- Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig – Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team
Dyslecsia
Dyscalcwlia
Dyspracsia
Syndrom Tourrettes