Iaith

Mae ymchwil a phrofiadau personol wedi dangos bod mynegi a thrafod materion sensitif, emosiynol a chymhleth, fel materion iechyd meddwl, yn brofiad llawer haws, yn fwy naturiol ac yn llai rhwystredig wrth allu gwneud hynny yn ein mamiaith.

I lawer o siaradwyr Cymraeg, gall gwneud hynny yn Saesneg, waeth beth yw ein rhuglder, fod yn eithriadol o anodd. Mae cleifion iechyd meddwl yn aml yn cael mwy o fudd o wasanaethau a ddarperir drwy gyfrwng eu hiaith gyntaf gan nad oes unrhyw rwystrau ieithyddol i’w mynegiant, i’w hyder, i’w gallu i ddatgelu nac i’w gallu i adeiladu perthynas gyda’r ymarferydd.

Mae pobl yn defnyddio’r gwasanaethau iechyd meddwl pan eu bod ar eu mwyaf bregus, felly mae’n bwysig eu bod yn medru cyfathrebu yn yr iaith maen nhw’n teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei siarad, yn enwedig gan fod siarad a chyfathrebu yn rhan mor ganolog o’r driniaeth ac o’r broses i wella.