Hil a Hiliaeth

Race & Racism

Yn gyffredinol, mae pobl Ddu a lleiafrifoedd ethnig sy’n byw yn y Deyrnas Gyfunol yn fwy tebygol o…

  • Gael diagnosis o broblemau iechyd meddwl
  • Gael diagnosis a gorfod mynd i’r ysbyty
  • Ymateb yn wael i driniaethau
  • Ymddieithrio o wasanaethau iechyd meddwl prif ffrwd, gan arwain at allgau cymdeithasol a dirywiad yn eu hiechyd meddwl

Gellid esbonio’r gwahaniaethau hyn gan nifer o ffactorau, gan gynnwys tlodi a hiliaeth. Gallai hyn hefyd fod oherwydd nad yw gwasanaethau iechyd meddwl prif ffrwd yn aml yn medru deall na darparu gwasanaethau sy’n dderbyniol ac yn hygyrch i gymunedau Prydeinig nad ydynt yn wyn. Yn aml, ni allant ddiwallu anghenion diwylliannol penodol ac anghenion eraill y cymunedau hyn. Mae’n debygol na chaiff problemau iechyd meddwl eu cofnodi, nac felly eu trin, gan fod pobl mewn rhai grwpiau ethnig lleiafrifol yn amharod i gysylltu â gwasanaethau iechyd prif ffrwd.

[Ffynhonnell: mentalhealth.org]

Ymdopi gyda hiliaeth

Gall cael ein trin yn wahanol neu’n annheg oherwydd ein hil, lliw croen neu’n ethnigrwydd gael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl.

Mae’r baich o dystio i hiliaeth am ddegawdau, ar hyd sawl cenhedlaeth, yn flinderus a gall wneud i chi anobeithio’n llwyr.

Mae’n normal os yw’ch profiadau o hiliaeth – boed yn fawr neu’n fach, yn gyson neu un digwyddiad, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol – yn effeithio ar eich hunan-barch, yn gwneud i chi deimlo’n flin, yn isel eich ysbryd neu’n anobeithiol.

Os ydy hiliaeth yn effeithio ar eich iechyd meddwl, mae camau y gallwch chi eu cymryd i gael y cymorth a’r gefnogaeth rydych chi’n ei haeddu. Os ydych chi’n teimlo wedi’ch llethu gan anferthedd y frwydr dros gyfiawnder, neu’n anobeithio am yr hyn sy’n teimlo fel anghyfiawnder anorchfygol, nid ydych chi ar ben eich hun, ac mae pethau y gallwch chi eu gwneud i leddfu’r emosiynau hyn ac adfer gobaith.

Nid ydych chi ar ben eich hun ac mae eich teimladau yn ddilys.

Mae hefyd yn ddilys os ydy profi hiliaeth anuniongyrchol yn cael effaith ar eich iechyd meddwl. Weithiau gall yr hyn sy’n digwydd o’n cwmpas, i bobl sydd fel ni, deimlo ei fod wedi digwydd i ni a gall deimlo fel ymosodiad personol, gallwn deimlo’n anobeithiol, neu fel nad yw’n bywydau o bwys.

Darllen rhagor: Ymdopi â hiliaeth

Dolenni allanol

  • Black, African and Asian therapy network – rhestr o gwnselwyr neu therapyddion arbenigol Du ac o leiafrifoedd ethnig eraill.
  • Black Minds Matter – yn cynnig gwasanaeth therapi am ddim drwy eich cysylltu â therapyddion cymwysedig Du.
  • Stop Hate UK – cefnogaeth gyfrinachol a hygyrch i ddioddefwyr a thystion i droseddau casineb.
  • Diverse Cymru – yn cynnig cefnogaeth, gwasanaethau a chyngor i bobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru sy’n cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl.
  • Mind – ‘Racism and Mental Health’