Ymdopi â Hiliaeth

Gall cael ein trin yn wahanol neu’n annheg oherwydd ein hil, lliw croen neu’n ethnigrwydd gael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl.

Rydyn ni gyd yn wynebu pandemig byd-eang unigryw, ond mae pobl Ddu hefyd yn delio â gorlwyth o hiliaeth systemig, ac mae’n teimlo fel ymosodiad o bob ongl. Nid yn unig y mae’r coronafeirws yn effeithio ar bobl Ddu ar raddfa anghymesur, ond maen nhw hefyd yn gorfod cael yr egni i brotestio am gyfiawnder o gwmpas y byd yn dilyn llofruddiaeth George Floyd gan yr heddlu.

Mae’r coronafeirws hefyd yn amddifadu pobl o’u rhwydweithiau cefnogol arferol, ac yn golygu nad yw pobl wedi gallu bod gyda’i gilydd i gefnogi ei gilydd. Mae’r cyfan yn ddigon i’ch llethu.

Hiliaeth ac Iechyd Meddwl

Yr hyn sy’n ddigalon yw ein bod ni wedi bod yma o’r blaen. Sawl gwaith o’r blaen. Nid yw anghyfiawnder hiliol systematig yn rhywbeth newydd, na chwaith yn broblem unigryw i America. Mae’r baich o dystio i hiliaeth am ddegawdau, ar hyd sawl cenhedlaeth, yn flinderus a gall wneud i chi anobeithio’n llwyr.

Mae’n bosib bydd y canlynol hefyd yn effeithio arnoch:

  • Hiliaeth wedi ei chyfeirio tuag at eich teulu a’ch anwyliaid;
  • Penawdau negyddol cyson am grŵp rydych chi’n uniaethu ag ef neu wlad y mae gennych gysylltiadau â hi;
  • Camliwio neu ddiffyg cynrychiolaeth yn y cyfryngau;
  • Darllen ystadegau sy’n dangos annhegwch ac anghydraddoldeb o fewn y systemau cyfiawnder, iechyd ac addysg;
  • Pobl yn diystyru sut ydych chi’n teimlo, yn dweud wrthoch eich bod yn gorymateb, neu’n gwadu bod problem.

Mae’n bosib eich bod yn teimlo wedi eich llethu yn wyneb hiliaeth ar hyn o bryd gan fod cymaint o sylw arno. Efallai eich bod chi hefyd yn teimlo’n anobeithiol gan nad yw hon yn sefyllfa newydd ac mae protestiadau wedi digwydd yn y gorffennol heb fawr ddim newid.

Mae’n normal os yw’ch profiadau o hiliaeth – boed yn fawr neu’n fach, yn gyson neu un digwyddiad, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol – yn effeithio ar eich hunan-barch, yn gwneud i chi deimlo’n flin, yn isel eich ysbryd neu’n anobeithiol.

Beth alla i wneud i wella fy iechyd meddwl?

Os ydy hiliaeth yn effeithio ar eich iechyd meddwl, mae camau y gallwch chi eu cymryd i gael y cymorth a’r gefnogaeth rydych chi’n ei haeddu. Os ydych chi’n teimlo wedi’ch llethu gan anferthedd y frwydr dros gyfiawnder, neu’n anobeithio am yr hyn sy’n teimlo fel anghyfiawnder anorchfygol, nid ydych chi ar ben eich hun, ac mae pethau y gallwch chi eu gwneud i leddfu’r emosiynau hyn ac adfer gobaith.

  1. Cydnabod eich teimladau

Mae pob emosiwn rydych chi’n ei deimlo nawr – p’un ai yw’n ddicter, tristwch neu ddim byd – yn gwbl ddilys a normal. Mae unrhyw ymateb i sefyllfa drawmatig a thrallodus – un sydd wedi mynd ymlaen am genedlaethau – yn ddilys ac yn haeddu sylw. Rhowch ganiatâd i’ch hun i deimlo sut bynnag rydych chi’n teimlo.

Nid ydych chi ar ben eich hun ac mae eich teimladau yn ddilys. Mae hefyd yn ddilys os ydy profi hiliaeth anuniongyrchol yn cael effaith ar eich iechyd meddwl. Weithiau gall yr hyn sy’n digwydd o’n cwmpas, i bobl sydd fel ni, deimlo ei fod wedi digwydd i ni a gall deimlo fel ymosodiad personol, gallwn deimlo’n anobeithiol, neu fel nad yw’n bywydau o bwys.

  1. Siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt am sut ydych chi’n teimlo

Yn aml, dyma’r cam cyntaf i gael cymorth a chefnogaeth. Mae’n bosib ei fod yn anodd siarad am sut ydych chi’n teimlo neu ailymweld â phrofiadau personol o hiliaeth. Cymerwch eich amser, a chofiwch nad oes rhaid i chi rannu mwy na rydych chi’n gyfforddus yn ei wneud. Gallwch siarad â phobl rydych chi’n ymddiried ynddynt am sut mae hiliaeth wedi, ac yn parhau i, effeithio arnoch chi helpu, a gall cael eich profiad wedi ei gydnabod a’i ddilysu gan rywun arall eich helpu i deimlo’n gryfach ac yn fwy gwydn.

  1. Dysgu am eich hawliau a sut i adrodd am achosion o hiliaeth

Gall hyn wneud i chi deimlo wedi’ch grymuso a’ch atgoffa nad yw’r hyn rydych chi’n ei brofi yn iawn.

  1. Dod o hyd i grwpiau a chymunedau cefnogol sy’n deall beth rydych chi’n ei brofi

Gall fod yn anodd iawn esbonio sut ydych chi’n teimlo i rywun sydd heb brofi hiliaeth, boed yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol. 

  1. Ymuno â mudiad i greu newid

Mae nifer o fudiadau a sefydliadau gwrth-hiliol yn brwydro am newid yn ein cymdeithas. Gall bod yn rhan o fudiad ehangach eich helpu i deimlo’n ymbwerus, yn werthfawr a rhoi teimlad o obaith i chi bod newid yn bosib. Cofiwch sicrhau eich bod yn cymryd amser i orffwys ac i edrych ar ôl eich hun os ydych chi’n ymgyrchu‘n rheolaidd. 

  1. Cofio nad eich cyfrifoldeb chi yw datrys hiliaeth

Peidiwch â rhoi pwysau ar eich hun – mae hon yn broblem na allwch ei datrys ar ben eich hun. Mae gan yr holl bobl o’ch cwmpas gyfrifoldeb i wneud newidiadau i’w hymddygiad ac i sicrhau hawliau pobl Ddu a grwpiau o leiafrifoedd ethnig.

  1. Hunanofal

Siaradwch â’ch hun yn dosturiol a chydnabod heriau a phoen y sefyllfa bresennol. Gall gweithgareddau hunanofal ganolbwyntio eich meddwl ar y presennol ac ymdawelu – megis ymwybyddiaeth ofalgar, darllen llyfr rydych chi’n ei fwynhau, gwylio ffilm, ymarfer corff neu gysgu.

  1. Rheoli eich ffrydiau cyfryngau cymdeithasol

Caiff gwybodaeth ei gyfathrebu mewn ffyrdd amrwd ar y cyfryngau cymdeithasol. Caiff llawer o fideos graffig a straeon poenus o emosiynol eu rhannu, sy’n anodd i’w gwylio neu eu darllen heb rybudd.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn hynod ddefnyddiol i gael y wybodaeth ddiweddaraf a chadw mewn cysylltiad â phobl. Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod chi’n teimlo fod gennych reolaeth dros eich ymgysylltiad â chyfryngau cymdeithasol, yn hytrach na bod y cyfryngau cymdeithasol yn eich rheoli chi.

Er bod aros yn wybodus yn bwysig, gall cael ein peledu yn gyson â digwyddiadau ofnadwy’r byd heb seibiant fod yn flinedig iawn. Felly, beth am gymryd seibiant digidol? Nid yw cymryd hoe o’r cyfryngau cymdeithasol a’r newyddion yn anwybyddu’r hyn sy’n digwydd; mae’n ffordd i amddiffyn eich hun fel y gallwch ddychwelyd at y materion ac ymgysylltu â nhw mewn ffordd ystyrlon. Gallwch hefyd reoli beth rydych chi’n ei weld ar eich cyfryngau cymdeithasol drwy ddad-ddilyn neu flocio cyfrifon a thawelu (mute) geiriau penodol.

  1. Meddwl sut ydych chi eisiau cymryd rhan yn y frwydr yn erbyn hiliaeth

Efallai y byddwch eisiau protestio, ond mae llawer o ffyrdd gwahanol y gallwch wneud gwahaniaeth mewn cyfnod o gyfyngiadau teithio. Gallwch addysgu’ch hun am yr agweddau gwahanol o hiliaeth a’i hanes mewn ffordd sy’n medru teimlo’n gysylltiedig a grymusol. Mae deall y mater o safbwynt hanesyddol yn bwysig yn ogystal ag o safbwynt ysgrifenwyr cyfoes sy’n ysgrifennu am hiliaeth.

  1. Gofyn am gymorth

Gallwch siarad â rhywun proffesiynol am sut mae hiliaeth wedi, ac yn parhau i, effeithio arnoch chi.

  • Black, African and Asian therapy network – rhestr o gwnselwyr neu therapyddion arbenigol Du ac o leiafrifoedd ethnig eraill.
  • Black Minds Matter – yn cynnig gwasanaeth therapi am ddim drwy eich cysylltu â therapyddion cymwysedig Du.
  • Stop Hate UK – cefnogaeth gyfrinachol a hygyrch i ddioddefwyr a thystion i droseddau casineb.
  • Diverse Cymru – yn cynnig cefnogaeth, gwasanaethau a chyngor i bobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru sy’n cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl.

[Ffynonellau: metro.co.uk a youngminds.org.uk]