Yoga gyda Laura Karadog
Sesiwn yoga byw yng nghwmni Laura Karadog, sy’n edrych ar ffyrdd o symud a dal y corff, ac anadlu, er mwyn rhyddhau tensiynau a thawelu’n system ar ddiwedd dydd.
Byddai’r offer canlynol yn ddefnyddiol: Strap/belt (fel belt dressing gown), 2 glustog (rhai gymharol gadarn os yn bosib), a blanced
Mae’r sesiwn yn rhan o’n cyfres #MawrthMeddwl, sef digwyddiadau bob nos Fawrth am 8pm ar ein tudalen Facebook er mwyn helpu i ymlacio’r corff a’r meddwl.