Goroesi Ynysu gyda Gwen Goddard
Mae ynysu yn rhywbeth annaturiol i ni wneud fel bodau dynol, ond ers 2020, mae ynysu wedi dod yn arferol yn ein bywydau. Mae risg i hyn effeithio’n negyddol ar ein iechyd meddwl os nad ydym yn cymryd camau er mwyn gwrthbwyso’r effeithiau.
Yn y fideo hwn mae Gwen Goddard o ‘Mental Health First Aid Wales’ yn trafod y peryglon ynghlwm ag ynysu a’r pethau gallwn ni eu gwneud er mwyn cadw’n meddyliau’n iach yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae’r sesiwn yn rhan o’n cyfres #MawrthMeddwl, sef digwyddiadau bob nos Fawrth am 8pm ar ein tudalen Facebook er mwyn helpu i ymlacio’r corff a’r meddwl.