Y gwahaniaeth rhwng tristwch ac iselder
Mae tristwch yn emosiwn sy’n gyffredin i bawb ac mae’n iach i ni gydnabod a pharchu ein hwyliau isel pan fydd yr adegau hynny yn ein taro.
Y rhan bwysig yw deall pryd ydyn ni angen cymorth. Os mai tristwch yw dy emosiwn sylfaenol ac os wyt ti’n gorfod ymdrechu i fwynhau gweithgareddau o ddydd i ddydd, efallai dy fod yn dioddef o iselder.
Gwybod y gwahaniaeth
Mae iselder yn gyflwr iechyd meddwl cymharol gyffredin. Yn wahanol i dristwch, nid yw’n emosiwn tymor byr. Gall wella neu waethygu ar adegau, ond yn aml bydd angen cymorth gan weithiwr proffesiynol.
Er bod amgylchiadau a phrofiadau pawb yn unigryw, mae’r canllaw cryno hwn yn egluro’r gwahaniaeth:
| Tristwch | Iselder |
| Rwyt ti’n teimlo’n isel am ychydig ddyddiau, ond mae treulio amser gyda ffrindiau, teulu, neu’n gwneud gweithgaredd rwyt ti’n ei fwynhau yn codi dy galon. | Rwyt ti’n teimlo’n isel am gyfnod hirach, (am bythefnos neu fwy fel rheol) ac ni all dy ffrindiau, dy deulu, na gweithgareddau roeddet ti’n arfer eu mwynhau, godi dy galon. |
| Efallai dy fod di wedi colli awydd bwyd neu rwyt ti’n cael trafferth cysgu, ond ar y cyfan mae dy arferion bwyta a chysgu yr un fath ag arfer. | Mae dy arferion bwyta yn newid (colli’r awydd am fwyd neu fwyta er mwyn cysur) a / neu mae dy arferion cysgu yn newid, felly rwyt ti’n cysgu mwy nag arfer neu ddim yn cysgu o gwbl. |
| Rwyt ti’n teimlo’n isel, ond rwyt ti’n gwybod y byddi di’n teimlo’n well yn y dyfodol. | Mae dy ymdeimlad o anobaith yn gyson ac rwyt ti’n cael trafferth gweld neu ddychmygu amser pan fydd dy deimladau yn newid. |
Beth i’w wneud nesaf?
Os wyt ti’n profi’r symptomau hyn, neu os wyt ti’n adnabod arwyddion iselder yn eraill, y cam cyntaf yw cysylltu â gweithiwr proffesiynol. Gwna apwyntiad gyda dy feddyg teulu neu gwnselydd i gael diagnosis ac arweiniad ar y triniaethau gwahanol sydd ar gael. Mae sawl ffordd o geisio mynd i’r afael ag iselder, yn cynnwys ymwybyddiaeth ofalgar, myfyrio, newidiadau i dy ffordd o fyw, meddyginiaeth ar bresgripsiwn a therapïau siarad. Mae canfod y cyfuniad cywir i ti a sicrhau bod digon o gefnogaeth o dy gwmpas yn allweddol. Cofia, mae bywyd yn rhywbeth cymhleth iawn ac mae pawb angen cymorth o bryd i’w gilydd.
[Ffynhonnell: happiful.com]
Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.
Cyhoeddwyd: Mai 2019. Diweddarwyd: Chwefror 2026.