Sut i reoli pyliau o banig
Gall pyliau o banig wneud i anadlu ymddangos yn anodd. Gallwch deimlo eich bod am lewygu neu hyd yn oed mygu. Weithiau, teimla pobol yn sâl neu’n chwyslyd pan maent yn cael pwl o banig.
Ond sut bynnag bydd eich pyliau o banig yn effeithio arnoch, mae yna ffyrdd o ddelio â nhw. Gallwch ddysgu sut i reoli pyliau o banig a chadw rheolaeth arnynt.
3 ffordd i helpu rheoli pwl o banig
- Canolbwyntiwch ar eich anadlu – Cymerwch anadl ddofn ac araf drwy eich trwyn ac allan o’ch ceg
- Trowch eich sylw at rywbeth arall -Cyfrwch bethau, cyfansoddwch gerdd, dychmygwch am hafan ddiogel
- Meddyliwch am bethau positif
Sut i ddelio â phyliau o banig?
Dyma rai technegau gwahanol gall eich helpu i gadw pyliau o banig o dan reolaeth. Efallai nad ydynt yn gweithio i bawb – posib bydd yn rhaid ffeindio’r un cywir ar eich cyfer chi. Yn aml, po fwyaf yr ydych yn eu hymarfer, y fwyaf tebygol y byddant o weithio.
Arafwch eich anadlu
Ceisiwch anadlu’n araf. Anadlwch drwy eich trwyn ac allan drwy’ch ceg. Peidiwch dal eich anadl. Ceisiwch gymryd anadl wedi’i rheoli yn lle – ble rydych yn ffocysu ar wneud pob anadl yn ddwfn ac yn araf. Gwnewch hyn am tua munud, yna dychwelwch at anadlu arferol.
Rhowch eich dwylo ar eich stumog. Gan anadlu’n normal, symudwch gyhyrau eich stumog mewn a mas tra’n anadlu a thra’n cadw eich ysgwyddau’n llonydd. Mae hyn yn helpu i wneud eich anadlu’n ddyfnach.
Ymlaciwch eich corff
Canolbwyntiwch ar ymlacio gwahanol gyhyrau yn eich corff. Dechreuwch o fysedd eich traed a gweithiwch i fyny at eich pen. Meddyliwch am ymlacio pob un yn eu tro.
Trowch eich meddwl at rywbeth arall
Er mwyn helpu â gorbryder a phyliau panig gallwch:
- gyfrif pethau o’ch amgylch fel cadeiriau, ffenestri neu bensiliau
- cyfansoddi cerdd yn eich pen
- meddwl am y geiriau i’ch hoff gân
- dychmygu hafan lle teimlwch yn sâff a thawel eich meddwl – meddyliwch sut mae’n teimlo, sut mae’n edrych a sut mae’n arogli
- cyfrif yn ôl o 100
Meddyliwch yn bositif
Atgoffwch eich hunan o’r rhain:
- dim ond gorbryder yw hyn
- ni all gorbryder fy niweidio
- bydd yn mynd heibio
- rydw i mewn rheolaeth
Siaradwch amdano
Mae pyliau o banig yn gyffredin iawn. Felly ni ddylech fyth deimlo bod rhaid i chi ddelio gyda nhw ar eich pen eich hun. Os na wnewch chi siarad gyda rhywun, gall adeiladu a chwyddo, gan deimlo fel rhywbeth mawr iawn i ddelio ag ef.
Ysgrifennwch
Cadwch ddyddiadur o’r hyn sy’n peri gorbryder i chi. Parhewch i ysgrifennu unrhyw syniadau sydd gennych ar sut mae ymdopi. Gwnewch nodyn o unrhyw beth sydd wedi lleddfu eich pyliau.
[Ffynhonnell: childline.org]
Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.