Sut i helpu eich partner â gorbryder – yn ogystal â’ch hun

Gall byw â gorbryder fod yn anodd – mae’n bosibl bod eich meddyliau ar garlam, eich bod yn ofni tasgau y mae eraill yn eu gwneud yn hawdd ac efallai ei bod hi’n teimlo fel petai nad oes modd dianc o’ch pryderon.

Ond mae caru rhywun â gorbryder yn gallu bod yn anodd hefyd. Efallai eich bod yn teimlo nad ydych yn gallu helpu, neu wedi’ch llethu gyda’r ffordd mae teimladau eich partner yn effeithio eich bywyd bob dydd.

Os felly, nid ydych ar eich pen eich hun: mae sawl astudiaeth yn dangos bod anhwylderau gorbryder yn gallu cyfrannu at broblemau priodasol neu broblemau o fewn perthynas.

Caiff gorbryder ei brofi mewn nifer o wahanol ffyrdd, ar nifer o lefelau gwahanol – o lefel ganolog i lefel gwanychol, o orbryder cyffredinol i ffobiâu – a gall ei effeithiau amrywio. Ond mae seiciatryddion a therapyddion yn dweud bod ffyrdd i helpu eich partner i ddeilio â’r heriau hyn, gan ofalu am eich hun hefyd.

Dechreuwch drwy ymdrin â’r symptomau

Gan fod gorbryder yn gallu eich llethu, gall fod yn ddefnyddiol i drafod â’ch partner am y ffordd y mae gorbryder yn effeithio eich bywyd dyddiol, fel diffyg cwsg. Mae rhywbeth syml fel defnyddio’r gair ‘straen’ yn hytrach na labeli clinigol yn gallu helpu hefyd.

Peidiwch â lleihau eu teimladau

Ceisiwch ddeall ofnau a phryderon eich partner, neu o leiaf cydnabod bod yr ofnau a’r pryderon hynny’n hollol real iddyn nhw, cyn i chi ddweud pam fod y pethau hynny efallai’n ddireswm.

Does gan gorbryder ddim datrysiad hawdd, ond mae helpu rhywun yn dechrau â chydymdeimlad.

Helpwch eich partner i chwilio am gymorth – a chymerwch ran os allwch chi

Os yw eich partner wedi’u llethu gan orbryder, ceisiwch eu hannog i ddod o hyd i gymorth. Gallwch hyd yn oed awgrymu cwnselydd neu therapydd, ond peidiwch â threfnu’r apwyntiad eich hunan. Mae’n bwysig bod gan y person ymdeimlad o annibyniaeth a rheolaeth dros eu triniaeth eu hunain.

Ceisiwch beidio â siarad â’ch partner fel petai chi yw’r therapydd, er enghraifft peidiwch ag awgrymu bod eich partner yn trio meddyginiaeth neu newid eu hymddygiad rhywffordd.

Gall fod yn ddefnyddiol hefyd i chi wneud ychydig o waith ymchwil ynghylch y math o orbryder all eich partner fod yn byw gydag ef.

Anogwch nhw – ond peidiwch â’u gwthio

Pan fod eich partner yn dioddef â gorbryder llethol, ac os nad ydych wedi profi hynny’n bersonol, gall ymddygiad eich partner deimlo’n rhwystredig, ond ni ddylech fyth eu trin yn nawddoglyd. Ni fydd sylwadau fel “Pam nad wyt ti’n gallu gwneud hyn?” neu “Beth yw dy broblem?” yn effeithiol.

Yn lle hynny, ceisiwch annog eich partner i herio’r gorbryder. Ceisiwch weld pethau o’u persbectif nhw. Anogwch nhw mewn ffordd gadarnhaol drwy ddweud rhywbeth fel “Os alli di wynebu’r anghyforddusrwydd hyn, bydd hyn yn fuddiol i ti yn y pen draw fel hyn…”. Yna gallwch geisio helpu eich partner i ddod dros yr ofnau hyn yn araf deg.

Sicrhewch fod gennych fywyd y tu allan i orbryder eich partner

I gynnal iechyd meddwl eich hun, mae’n bwysig i chi feithrin arferion a pherthnasau sydd ar eich cyfer chi yn unig, megis ymarfer corff neu dreulio amser gyda ffrindiau. Sicrhewch fod gennych bobl o’ch amgylch, fel ffrind neu gwnselydd, i’ch helpu os fydd gorbryder eich partner yn peri straen i chi.

Helpwch eich partner i gofio mai’r amcan yw rheoli’r gorbryder – nid ei waredu o reidrwydd.

Mae gorbryder yn gallu achosi i rywun osgoi pethau, ac mae hyn yn ei dro yn gallu arwain at iselder. Mae hefyd yn gallu lleihau’r profiadau allwch chi eu rhannu â’ch partner. Mae nifer o bobl sydd â gorbryder yn ei weld fel y gelyn, ond y gelyn mewn gwirionedd yw osgoi’r broblem.

[Ffynhonnell: npr.org]


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.