Menopôs a’r ffordd o fyw

Mae’r erthygl hon yn cynnig awgrymiadau ar bethau allai helpu â rhai o symptomau’r menopôs. Os yw eich symptomau yn ddifrifol ac yn amharu ar eich bywyd bob dydd, siaradwch gyda’ch meddyg teulu. 


Mae mis Hydref yn nodi Mis Ymwybyddiaeth Menopôs, ac eleni, mae’r thema Lifestyle Medicine yn tynnu sylw at sut gall dewisiadau bob dydd drawsnewid profiad y menopôs. Mae meddygaeth ‘ffordd o fyw’ yn cynnig dull pwerus, seiliedig ar dystiolaeth, i reoli symptomau ac i wella iechyd hirdymor.

Mae’r menopôs yn newid naturiol, ond gall ddod â heriau: fflachiadau poeth, problemau cysgu, newidiadau hwyl a blinder. Y newyddion da? Gall symud, maeth a chwsg gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

 

1. Symud: Mwy na ymarfer corff

Mae gweithgarwch corfforol yn ein helpu gyda’n hormonau, codi hwyliau, a diogelu iechyd esgyrn. Symudwch yn gyson.

Tip:

  • Cerdded bob dydd: Gall hyd yn oed 20 munud godi hwyliau a chefnogi iechyd y galon.
  • Codi pwysau: Mae ymarferion codi pwysau neu pwysau’r corff fel sgwats yn helpu i gynnal cyhyrau ac esgyrn.
  • Ymestyn ac anadlu: Gall yoga neu pilatés leddfu stiffrwydd cymalau a lleihau gorbryder.

 

2. Bwyd: Tanwydd ar gyfer cydbwysedd hormonol

Gall yr hyn rydych chi’n ei fwyta ddylanwadu ar lefelau egni ac ansawdd cwsg. Mae deiet cytbwys yn cefnogi’r corff trwy’r newidiadau hormonol.

Tip:

  • Bwyta’r enfys: Mae ffrwythau a llysiau lliwgar yn darparu gwrthocsidyddion a ffibr.
  • Cynnwys brasterau iach: Mae Omega-3 o hadau llin (‘flax seeds’), cnau, neu bysgod olewog yn cefnogi iechyd y galon a’r ymennydd.
  • Cyfyngu bwydydd wedi’u prosesu: Gall lleihau siwgr ac alcohol leihau fflachiadau poeth a newidiadau hwyl.

 

3. Cwsg: Yr arwr tawel

Mae aflonyddwch cwsg yn gyffredin yn ystod y menopôs, ond mae gorffwys yn hanfodol ar gyfer adferiad, hwyliau, a swyddogaeth gwybyddol.

Tip:

  • Creu trefn: Ewch i’r gwely ac chodwch yr un amser bob dydd.
  • Cyfyngu caffein ac amser sgrin: Yn enwedig gyda’r nos.
  • Oeri’r ystafell wely: Gall tymheredd is leihau chwysu yn y nos.

 

Nid yw’r menopôs yn brofiad unffurf. Mae meddygaeth ‘ffordd o fyw’ yn grymuso unigolion i gymryd rheolaeth dros eu lles gyda newidiadau bach, cynaliadwy. Boed yn cerdded yn natur, coginio pryd maethlon, neu flaenoriaethu gorffwys, mae pob dewis yn gam ymlaen.

Y mis Hydref hwn, gadewch i ni ddathlu’r cryfder mewn symudiad, pŵer bwyd, a’r adferiad a geir mewn cwsg. Oherwydd nid yw’r menopôs yn ymwneud â rheoli symptomau yn unig, mae’n ymwneud â chofleidio pennod newydd gyda bywiogrwydd a hyder.


Elusennau sy’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth: