Beth i wneud pan fydd materion cyfoes yn achosi gorbryder
Gall materion cyfoes achosi gorbryder. Gall newyddion am drais, casineb, problemau gwleidyddol, a mwy, effeithio ar ein hiechyd meddwl.
Mewn nifer o achosion, mae’r digwyddiadau hyn yn bell yn ddaearyddol oddi wrthym ac felly nid ydynt yn fygythiad uniongyrchol i’n bywydau. Pam, felly, bod materion cyfoes yn achosi gorbryder? Ymhellach, beth allwn ni wneud pan fydd materion cyfoes yn achosi gorbryder?
Sut mae materion cyfoes yn achosi gorbryder?
Gall digwyddiadau erchyll effeithio arnom ar sawl lefel: yn feddyliol, yn emosiynol, ac ar ein hymddygiad. Mae trais yn creu pryder, ofn, ac, mewn achosion eithafol, yn medru arwain at anhwylder gorbryder. Gall digwyddiadau sy’n beryg bywyd hefyd achosi straen, pyliau o banig a theimlad o fod yn fregus. Gall clywed am ddigwyddiadau trychinebus sbarduno symptomau o orbryder neu Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) sydd eisoes yn bodoli.
Un o’r prif resymau y gall materion cyfoes achosi gorbryder yw teimlad o reolaeth. Mae’r teimlad nad oes gennym reolaeth dros ddigwyddiadau yn ein byd yn dod o gyfuniad o bethau:
- Gyda digwyddiadau sy’n bell gallwn deimlo dan straen ac yn bryderus na allwn wneud unrhyw beth;
- Gyda digwyddiadau sy’n agosach gallwn deimlo ofn a phryder am ein diogelwch ein hunain a diogelwch ein hanwyliaid;
- Gyda digwyddiadau sy’n digwydd heb rybudd gallwn deimlo’n gynyddol bryderus am ein diogelwch;
- Gyda newid gwleidyddol a chymdeithasol gallwn deimlo pryder am beth allai newid er gwaeth yn ein byd.
Mae materion cyfoes yn creu gorbryder yn bennaf oherwydd nad oes gennym ni reolaeth drostynt.
Sut i gael persbectif pan fydd materion cyfoes yn achosi gorbryder
Yn anffodus, prin iawn o reolaeth sydd gennym dros y byd a’r bobl sy’n byw ynddo. Ni allwn reoli gweithredoedd pobl eraill, ond gallwn reoli ein gweithredoedd, meddyliau a’n credoau ein hunain yn ein byd ni. Os ydy rheolaeth yn ffactor sy’n cynyddu gorbryder ynghylch materion cyfoes, un ateb posib ydy cael persbectif.
Persbectif ydy sut ydyn ni’n dehongli’r pethau o’n cwmpas. Mae canolbwyntio’n llwyr ar adroddiadau am ddigwyddiadau negyddol yn gwyro ein persbectif. Mae hyn yn gwneud i ni i weld y gwaethaf ym mhobl, mewn bywyd ac yn y byd. Pan fyddwn ni’n meddwl yn negyddol, rydyn ni’n gorymateb, ac yn credu bod y byd yn frawychus ac yn ansefydlog. Rydym wedyn yn poeni am iechyd a diogelwch ein hunain a’n hanwyliaid; ac felly mae gorbryder yn meddiannu ein meddyliau a’n hemosiynau ac yn effeithio ar ein hymddygiad. Nid oes gennym reolaeth dros rhai o’r digwyddiadau mawr sydd ar y newyddion, ond mae gennym reolaeth drosom ni’n hunain a’n persbectif ni.
Gall yr awgrymiadau isod eich helpu i roi materion cyfoes mewn persbectif a lleihau gorbryder:
Lleihau ein ffocws
Er ei fod yn beth da ein bod yn gwybod am yr hyn sy’n digwydd ar draws y byd, gall canolbwyntio gormod ar ddigwyddiadau pell arwain at orgyffredinoli. Er mwyn osgoi meddwl bod yr holl broblemau yn digwydd i chi nawr, newidiwch eich persbectif. Gall canolbwyntio’n llwyr ar eich bywyd eich hun eich atal rhag gorgyffredinoli a byw gyda phryder ac ofn.
Rhoi llai o sylw i’r newyddion.
Pan rydyn ni’n clywed adroddiadau newyddion yn gyson iawn, cawn ein gorlwytho. Gwyliwch neu darllenwch y newyddion ddigon i deimlo eich bod yn ymwybodol o beth sy’n digwydd yn y byd, wedyn stopiwch. Ewch i wneud rhywbeth arall i symud eich persbectif at eich bywyd eich hun yn hytrach nag ar faterion cyfoes.
Cofiwch beth gaiff ei adrodd.
Mae’r rhan fwyaf o newyddion yn negyddol. Rydyn ni’n clywed am achosion o drais ond nid ydym yn clywed am yr holl bobl nad ydynt yn dreisgar. Mae’r newyddion yn canolbwyntio ar y digwyddiadau sy’n gwneud i’r byd ymddangos yn hyll iawn. Cofiwch fod llawer iawn o bethau da yn digwydd nad yw’n cael ei adrodd ar y newyddion.
Gweithredwch yn lleol.
Mae llawer o bethau na allwn eu rheoli. Mae hefyd rhai pethau y gallwn eu rheoli. Allwch chi ddod yn weithgar yn eich cymuned i weithredu yn bositif i newid er gwell?
Yn sicr, gall materion cyfoes achosi gorbryder. Maent yn cymryd ein teimlad o reolaeth i ffwrdd, ond drwy newid ein persbectif gallwn gadw rheolaeth a lleihau gorbryder.
[Ffynonellau: healthyplace.com a Ffeil]