Cyfreithiau a Strategaethau ynghylch Iechyd Meddwl

Mae’r erthygl hon yn rhoi crynodeb o’r deddfau, y strategaethau a’r canllawiau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl yng Nghymru.

Y prif gyfreithiau sy’n effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yw:

  • Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983 (a gafodd ei diwygio yn 2007)

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddarnau eraill o ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl.

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol mewn perthynas ag asesu a thrin problemau iechyd meddwl.

Mae’r Mesur hefyd yn gwella gallu pobl â phroblemau iechyd meddwl i gael gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol. Mae’r Mesur wedi’i rannu’n bedair prif ran:

Rhan 1: sicrhau bod mwy o wasanaethau iechyd meddwl ar gael yn y sector gofal sylfaenol.

Dylai Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol gydweithio i sefydlu Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol ledled Cymru. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn lleoliadau meddygon teulu ac ochr yn ochr â hwy.

Rhan 2: sicrhau bod pobl o bob oedran sy’n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn derbyn Cynllun Gofal a Thriniaeth unigol.

Bydd cydgysylltwyr gofal yn cael eu penodi a byddant yn sicrhau bod y defnyddwyr gwasanaethau a’u cynhalwyr yn cyfrannu at y cynlluniau gofal a thriniaeth. Bydd gwasanaethau iechyd meddwl yn canolbwyntio ar fodel gofal a thriniaeth adferol ac yn cynnwys defnyddwyr gwasanaethau mewn Cynlluniau Gofal a Thriniaeth sydd wedi’u teilwra yn ôl anghenion yr unigolyn.

Rhan 3: hwyluso’r broses o ail-gyfeirio

Galluogir oedolion cymwys sydd wedi’u rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd – ond sy’n credu bod eu hiechyd meddwl yn gwaethygu – i gyfeirio eu hunain yn ôl i wasanaethau eilaidd. Ni fydd angen gweld Meddyg Teulu na mynd i unman arall i gael atgyfeiriad yn gyntaf.

Rhan 4: cymorth gan Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol.

Sicrheir bod gan yr holl gleifion mewnol yng Nghymru sy’n derbyn asesiad neu driniaeth am anhwylder meddwl yr hawl i ofyn am gymorth gan Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol. Mae hyn yn ymestyn y cynllun Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol. Mae’n cynnwys cleifion sy’n destun gorfodaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a’r rhai sydd mewn ysbyty yn wirfoddol.

Deddf Galluedd Meddyliol

Daeth y Ddeddf i rym yng Nghymru a Lloegr ar 1 Hydref 2007. Mae’r Ddeddf yn nodi’n gyfreithiol beth sy’n digwydd pan nad yw pobl yn gallu gwneud penderfyniadau, er enghraifft pan nad oes ganddynt y gallu i wneud penderfyniad penodol.

Diben y Ddeddf yw:

  • cryfhau hawl pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain a chael cefnogaeth i wneud hynny;
  • diogelu’r bobl hynny nad oes ganddynt y gallu i wneud penderfyniad penodol;
  • amlinellu ym mha sefyllfaoedd y gall pobl eraill wneud penderfyniadau ar eich rhan neu weithredu ar eich rhan os na fyddwch chi’n gallu gwneud hynny;
  • sicrhau eich bod yn cael eich cynnwys yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi;
  • helpu i ddatrys anghydfodau.

Deddf Iechyd Meddwl 1983

Deddf Iechyd Meddwl 1983, a ddiwygiwyd yn sylweddol yn 2007, yw’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr sy’n caniatáu i bobl ag anhwylder meddwl gael eu derbyn i’r ysbyty, eu cadw a’u trin heb eu caniatâd – naill ai er mwyn eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain, neu er mwyn diogelu pobl eraill. Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu deddfau eu hunain ynglŷn â thriniaeth orfodol i bobl sydd â salwch meddwl.

Gall pobl gael eu derbyn, eu cadw a’u trin dan wahanol adrannau o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau, a dyna pam y defnyddir y term ‘sectioned’ yn Saesneg i ddisgrifio derbyn rhywun yn orfodol i’r ysbyty. Defnyddir Adran 2 i dderbyn rhywun i’w asesu, Adran 3 i gael triniaeth ac Adran 4 mewn argyfwng. Gelwir pobl a dderbynnir yn orfodol i’r ysbyty yn gleifion ‘ffurfiol’ neu ‘anwirfoddol’.

Adran 117 y Ddeddf Iechyd Meddwl : Gofal dilynol

Os ydych wedi bod yn destun Gorchymyn Adran 3 neu orchymyn arall o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, bydd gennych hawl i Ofal Dilynol Adran 117, sy’n rhoi dyletswydd ar yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd i gymryd rhan ar y cyd a chytuno ar eich gofal dilynol gyda chi. Beth mae hyn yn ei olygu i mi? Byddwch yn cael adolygiadau Adran 117 yn rheolaidd i edrych ar y cynnydd rydych wedi’i wneud ac i benderfynu a oes angen help neu wasanaethau ychwanegol. Bydd unrhyw wasanaethau a ddarperir yn rhad ac am ddim.

Adran 136 y Ddeddf Iechyd Meddwl : Mynd ag unigolyn i fan diogel

Mae yna achlysuron pan all yr Heddlu weithredu os ydynt yn credu bod rhywun yn dioddef o afiechyd meddwl ac angen triniaeth neu gofal ar unwaith.

Mae eu pwerau ar gyfer achlysuron fel hyn wedi’u nodi yn Adran 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae hyn yn rhoi’r awdurdod iddynt i gymryd rhywun o fan gyhoeddus i ‘Le Diogel’, naill ai er mwyn diogelwch ei hun neu er mwyn diogelwch pobl eraill, er mwyn iddynt fedru asesu eu hanghenion.

Fe all Lle Diogel fod mewn ysbyty, gorsaf heddlu neu rhywle arall dynodedig. Fodd bynnag, mae’r canllawiau diweddaraf yn dweud y dylid defnyddio gorsaf heddlu mewn sefyllfeydd eithriadol yn unig. Mae pob ardal yng Nghymru yn gweithio i sicrhau bod Llefydd Diogel ar gael mewn sefydliadau addas, fel arfer mewn ysbytai.

Yn y Lle Diogel, fe fydd y person yn cael ei archwilio gan feddyg ac yna yn cael cyfweliad gyda gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol, a fydd yn gwirio’n ofalus bod y person yn dioddef o salwch meddwl, ac os oes angen iddynt fynd i’r ysbyty, neu os oes angen mwy o gymorth a thriniaeth yn y cartref arnynt.

Gellir cadw rhywun mewn Lle Diogel am 72 awr ar y mwyaf, ac mae ganddynt yr hawl i:-

Mwy na geiriau… (2012)

Mwy na geiriau…’ i gryfhau gwasanaethau Cymraeg ymhlith rheng flaen iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn er mwyn cwrdd ag anghenion gofal siaradwyr Cymraeg a’u teuluoedd neu ofalwyr.

Mae’r Fframwaith yn amlinellu’r sefyllfa bresennol ac yn cynnig dull systematig o fynd ati i wella gwasanaethau ar gyfer y rhai sydd angen neu sy’n dewis derbyn eu gofal yn Gymraeg. Mae’r strategaeth hon yn gosod cyfrifoldeb ar yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant i gynnig arweinyddiaeth a gosod cyfeiriad clir i’r gwasanaethau er mwyn cryfhau gwasanaethau a bodloni anghenion siaradwyr Cymraeg.

 Law yn Llaw at Iechyd Meddwl (2012)

Strategaeth a Chynllun Cyflawni Cenedlaethol Cymru

Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn nodi uchelgeisiau ar gyfer gwella iechyd meddwl a gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru.

Mae’r Strategaeth hon yn atgyfnerthu’r angen i hybu lles meddyliol gwell ymhlith y boblogaeth gyfan. Mae’n rhoi sylw i anghenion pobl â phroblemau iechyd meddwl neu salwch meddwl, gan sicrhau bod y bobl hyglwyf sydd â’r anghenion mwyaf yn cael y flaenoriaeth briodol.

Mae’n canolbwyntio ar sut i wella bywydau defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd drwy ganolbwyntio ar adfer ac ail-alluogi. Mae’n diweddaru polisi cyfredol, gan roi gofynion Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 wrth wraidd yr hyn a wna’r Llywodraeth.

Siarad â fi 2 (2015)

Cynllun gweithredu atal hunanladdiad a hunan-niwed Cymru 2015-2020.

Mae’r canllaw hwn yn ceisio helpu pobl sydd wedi cael profedigaeth annisgwyl o ganlyniad i hunanladdiad.”

Mae’r ddogfen strategaeth hon a’r cynllun gweithredu cysylltiedig yn adeiladu ar Siarad â Fi, y cynllun gweithredu cenedlaethol a gyhoeddwyd yn 2009 i leihau hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru. Mae’n disgrifio’r nodau ac amcanion strategol i atal a lleihau hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru dros y cyfnod 2015-2020. Mae’n adnabod darparwyr gofal sy’n flaenoriaeth i gymryd camau gweithredu mewn rhai lleoedd sy’n flaenoriaeth er budd pobl allweddol sy’n flaenoriaeth, ac yn cadarnhau’r camau gweithredu cenedlaethol a lleol sy’n ofynnol.

Darllen rhagor : Siarad â fi 2 (pdf)