Iechyd meddwl a’r Gymraeg – mae’n amser deffro : Gwerddon Fach
Sophie Ann Hughes, ymchwilydd ac ymgyrchydd ym maes iechyd meddwl, sy’n disgrifio gwaith ymchwil sy’n profi’r angen am driniaeth therapi siarad drwy famiaith.
“Mae’n hysbys fod nifer o siaradwyr Cymraeg yn fwy cyfforddus a chartrefol yn siarad Cymraeg na Saesneg a bu ymdrechion lu ers blynyddoedd gan wahanol fudiadau i bwysleisio arwyddocâd hynny ym maes iechyd Cymru. Ond, plant ifanc a phobl hŷn wedi colli gafael ar eu hail iaith yw’r unig siaradwyr uniaith Gymraeg sydd ar ôl bellach felly nid rhyfedd fod oedolion wedi’u hanwybyddu – bron yn llwyr – ym myd polisi tan yn ddiweddar.”
Mae’r erthygl ar Gwerddon Fach yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil ac yn amlygu goblygiadau pellgyrrhaeddol a pheryglus o beidio a derbyn gwasanaeth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg.