Gorflino – a fydd eich gwyliau Haf yn ei ddatrys?

Mae gorflino’n gallu bod yn erchyll – rydych chi’n flinedig, mae’ch corff yn teimlo’n drwm ond yn effro ar yr un pryd, mae’ch meddwl ymhobman ac rydych yn teimlo’n ofnadwy.

Mae’n gyfuniad o ofn, dideimladrwydd ac iselder. Mae’ch cymhelliad yn isel, a hyd yn oed os ydych yn cael amser i ffwrdd o’r gwaith, mae’ch blinder yn parhau ac ni allwch weld ffordd allan. Rydych yn stryffaglu tuag at wyliau haf a fydd yn eich achub…ond a yw hynny’n wir?

Caiff gorflino ei ddiffinio fel hyn: ‘i fethu, neu orflino o ganlyniad i ofynion eithafol o ran egni, cryfder, neu adnoddau’. Gall orflino arwain at anallu i wneud pethau (dros dro neu’n barhaol) a diffyg brwdfrydedd a chreadigrwydd, dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau, iselder, gorbryder, symptomau somatig, a salwch corfforol.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu bod gorflino yn ganlyniad i ormod o waith; pobl wedi’u gorlwytho â gwaith ac yn methu ymdopi â hynny. Mae llwyth gwaith a bywyd (nid yr unig waith yr ydym yn gwneud yw’r gwaith rydym yn cael ei dalu amdano) yn ffactor bwysig iawn wrth drafod gorflino, ond nid dyma’r unig reswm. Mae digwyddiadau bywyd, trawma, ffordd o weithio, mathau o bersonoliaeth, a hyd yn oed niwroamrywiaeth (neurodiversity) yn gallu cyfrannu ato.

Er enghraifft, mae gorflino’n gyffredin ymhlith:

  • gweithwyr lefel uchel, fel prif weithredwyr ayb, sy’n aml yn berffeithwyr ac yn gor-gyflawni
  • gweithwyr gofal, yn enwedig y rhai hynny sy’n rhoi anghenion eraill o flaen eu rhai eu hunain, ac felly’n mynd y tu hwnt i’w hymroddiad a’i hymrwymiad
  • pobl sydd ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) neu Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig (ASD) sy’n gweithio mewn sefydliadau nad ydynt yn ystyried eu hanghenion nac yn gwerthfawrogi eu doniau a chryfderau

Mae mynd ar wyliau (cyhyd â’ch bod yn gadael eich ffôn neu gyfrifiadur gwaith gartref) yn gyfle i gamu yn ôl ac ymlacio, ond ni fydd yn datrys y cyfuniad o ffactorau sydd wedi arwain at eich gorflino. Ni fydd yn lleihau eich llwyth gwaith, yn atal y gofynion ar eich amser, nac yn newid eich personoliaeth a’r ffordd y mae’ch meddwl yn gweithio.

Os ydych yn credu eich bod ar drywydd gorflino, ceisiwch ddod o hyd i rywun all eich cefnogi. Gall seicotherapydd neu gwnselydd cymwysedig eich helpu i gydbwyso eich bywyd, deall yr hyn sydd wrth wraidd y broblem, a rhoi rhywfaint o reolaeth i chi.

Tair ffordd o oresgyn gorflino

  1. Cwnsela tymor byr – 12 sesiwn o gwnsela sy’n canolbwyntio ar gydnabod y sefyllfa, datblygu adnoddau mewnol trwy hunan-ymwybyddiaeth, deall ffyrdd o weithio a digwyddiadau bywyd, patrymau ymddygiad, adeiladu hunan-hyder, a chymryd cyfrifoldeb personol dros newid. Mae lleihad mewn symptomau yn gyffredin ar ôl 12 sesiwn.
  2. Seicotherapi hirdymor (rhwng chwe mis a sawl blwyddyn) – mae hyn fel arfer yn digwydd ar ôl y deuddeg sesiwn cychwynnol, ac yn darparu profiad dyfnach o hunan-ddarganfod a chefnogaeth barhaus. Mae seicotherapi mwy hirdymor yn galluogi newidiadau o ran derbyn eich hun, dealltwriaeth, a gallu i fod yn ddigymell, yn annibynnol ac yn agosach at eraill. Yn yr un modd ag y gallwch wneud ymarfer corff i gadw’n heini, mae seicotherapi hirdymor yn gallu bod yn rhan wythnosol o’ch hunan-ofal. Mae’n gallu achosi newid strwythurol yn eich bywyd, ac felly bydd eich gorflino’n cael ei ymdrin ag ef ar lefel ddyfnach.
  3. Therapi awyr agored – mae hyn yn golygu gwneud therapi tu allan, a cherdded a siarad mewn natur. Mae ymchwil yn dangos bod treulio amser yn yr awyr agored yn rhoi buddion iechyd corfforol a meddyliol megis;
  • hwyliau gwell
  • lleihad o ran straen
  • y gallu i feddwl yn fwy eglur

Mae therapi awyr agored yn gallu cyfoethogi bywyd, gyda natur yn cefnogi ein gallu i adlewyrchu ar ein hunain ac i gysylltu â’n hunain yn ogystal ag eraill.

[Ffynhonnell: Counselling Directory]


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.