Gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod Covid-19
Ceisiwch aros mewn cysylltiad
Yn ystod adegau o straen, rydym yn gweithio’n well mewn cwmni a chyda cefnogaeth. Ceisiwch gadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau a’ch teulu neu cysylltwch â llinell gymorth i gael cymorth emosiynol.
Cadwch mewn cysylltiad â ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol ond ceisiwch beidio â gorgynhyrfu pethau. Os ydych chi’n rhannu erthyglau ac ati, defnyddiwch ffynonellau dibynadwy, a chofiwch efallai bod eich ffrindiau’n poeni hefyd.
Cadw trefn feunyddiol
Mae’n syniad da i gadw at eich trefn feunyddiol. Efallai eich bod am ganolbwyntio ar y pethau allwch chi eu gwneud os ydych chi’n teimlo y gallwch:
- technegau rheoli straen ac ymlacio
- gwneud ymarfer corff
- bwyta deiet cytbwys
Siaradwch â’ch plant
Mae cynnwys ein teulu a’n plant yn ein cynlluniau ar gyfer iechyd da yn hanfodol. Mae angen i ni wrando a gofyn i’n plant beth y maen nhw wedi ei glywed am y firws a’u cefnogi, heb eu dychryn.
Mae angen i ni leihau’r effaith negyddol y mae’n ei gael ar ein plant ac esbonio’r ffeithiau iddynt. Trafodwch y newyddion â nhw ond ceisiwch ag osgoi eu gorlwytho â gwybodaeth am y firws. Byddwch mor onest ag y gallwch. Ceisiwch drafod â nhw mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.
Mae rhywfaint o ofid yn normal
Mae’n normal i deimlo’n fregus ac wedi’ch gorlwytho wrth ddarllen newyddion am y firws, yn enwedig os ydych chi wedi profi trawma neu broblem iechyd meddwl yn y gorffennol, neu os oes gennych chi gyflwr iechyd corfforol hirdymor sy’n eich gwneud yn fwy agored i effeithiau’r coronafeirws.
Mae’n bwysig cydnabod y teimladau hyn ac atgoffa’n gilydd i ofalu am ein hiechyd corfforol ac iechyd meddwl. Dylem hefyd fod yn ymwybodol o arferion nad ydynt yn fuddiol yn yr hirdymor, fel ysmygu ac yfed, ac osgoi cynyddu ein defnydd o’r rhain.
Ceisiwch dawelu meddwl y bobl rydych yn gwybod sy’n bryderus a chadw mewn cysylltiad â phobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain.
Ceisiwch beidio â gwneud rhagdybiaethau
Peidiwch â dod i gasgliadau am bwy sy’n gyfrifol am ledaenu’r clefyd. Gall Coronafeirws effeithio ar unrhyw un, waeth eu rhyw neu hil.
Ceisiwch reoli sut rydych yn dilyn y newyddion
Mae llawer o sôn am y firws ar y newyddion ar hyn o bryd. Os ydych chi’n teimlo bod y newyddion yn peri straen i chi, mae’n bwysig i gael cydbwysedd. Does dim rhaid i chi osgoi’r newyddion yn gyfangwbl, mae’n bwysig i fod yn wybodus, ond gallwch gyfyngu ar faint o’r newyddion yr ydych chi’n ei weld.
Sut y dylai pobl ymdopi â hunan-ynysu neu bod mewn cwarantîn?
Os oes posibilrwydd bod gennych Coronafeirws, mae’n bosib y gofynnir i chi aros gartref (hunan-ynysu).
I bobl sy’n hunan-ynysu neu mewn cwarantîn, efallai y bydd hyn yn anodd iawn. Gall fod o gymorth i geisio ei ystyried fel cyfnod gwahanol o amser yn eich bywyd, ac nid un sy’n wael o reidrwydd, hyd yn oed os na wnaethoch ei ddewis.
Bydd hyn yn golygu rhythm bywyd gwahanol, cyfle i gadw mewn cysylltiad ag eraill mewn ffyrdd gwahanol i’r arfer. Cysylltwch ag eraill yn rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, dros e-bost neu ar y ffôn, gan eu bod o hyd yn ffyrdd da o fod yn agos i’r bobl sy’n bwysig i chi.
Crëwch drefn feunyddiol sy’n blaenoriaethu hunan-ofal. Efallai byddwch am ddarllen mwy neu wylio ffilmiau, gwneud ymarfer corff, rhoi cynnig ar dechnegau ymlacio, neu ddysgu am bwnc newydd ar y we. Ceisiwch ymlacio a gweld hyn fel profiad newydd, anarferol, a all fod o fudd i chi.
Sicrhewch fod eich anghenion iechyd ehangach yn cael eu gofalu amdanynt, fel sicrhau bod gennych ddigon o’ch meddyginiaethau presgripsiwn.
[Ffynhonnell: Mental Health Foundation]