‘Llythyrau Adferiad – At bobl sy’n wynebu iselder’ (y Lolfa) (detholiad)

Daw’r darn isod o Llythyrau Adferiad – At bobl sy’n wynebu iselder a olygwyd gan James Withey ac Olivia Saga a gyhoeddir gan y Lolfa ac sy’n rhan o’r cynllun Darllen yn Well.

Yn 2012, lansiwyd The Recovery Letters i gyflwyno cyfres o lythyrau ar-lein gan bobl a oedd yn dod dros iselder at bobl a oedd yn dal i fod yn ei chanol hi. Wedi’u crynhoi’n gasgliad am y tro cyntaf ar gyfer pobl sy’n byw gydag iselder, mae’r llythyrau ysbrydoledig a didwyll hyn, sy’n seiliedig ar brofiadau personol, yn cynnig gobaith a chefnogaeth ac yn tystio bod adferiad yn bosib.

ODDI WRTH JOHN

Annwyl Chi,

John ydw i a dw’n dioddef pyliau o iselder. Fe ddechreuon nhw pan oeddwn i yn fy arddegau cynnar ac fe barhaon nhw, heb unrhyw driniaeth, nes fy mod i’n 51. Dwi’n 53 erbyn hyn ac wedi bod yn cael triniaeth ers dwy flynedd. Dwi’n credu y bydda i’n parhau i gael triniaeth am flynyddoedd lawer i ddod ac mae hynny’n iawn. Cymerodd flynyddoedd lawer i mi fod mor sâl ag yr oeddwn i, felly dydy hi ddim yn syndod i mi y bydd yn cymryd blynyddoedd lawer i wella.

Ar y dechrau, doedd y pyliau o iselder ddim yn para’n hir, gyda hwyliau tywyll ddim ond yn ymweld â mi am y dydd. Dros y blynyddoedd, aeth digalondid yn ddyfnach ac yn fwy dwys. Pan oeddwn yn 51 oed, roedd y pwl wedi para am flynyddoedd ac roedd yn dywyll iawn. Gallwn rygnu ‘mlaen a disgrifio pa mor ddi-werth roeddwn i’n teimlo, y blinder, pwysau’r cyfnod o iselder a mwy. Rydych chi’n gwybod hyn eisoes o’ch profiad chi.

Mae angen i chi wybod felly, er na alla i wybod beth yw’ch poen chi, a’i fod yn unigryw i chi, y galla i ddeall yn bendant.

Dwi’n dechrau drwy gyffesu. Ar 2 Medi 2014, pan oeddwn i’n 51 oed, fe geisiais i fy lladd fy hun. Dwi’n cyffesu hyn wrthych chi fel eich bod yn gwybod gymaint oedd fy nhrallod, pa mor brin o hunan werth roeddwn i.

Ar 3 Medi, roeddwn i’n berson gwahanol iawn i’r diwrnod cynt. Roeddwn i’n dal i fod yn chwilfriw, ond roeddwn i wedi sylweddoli bod angen i mi ddarganfod beth oedd yn bod. Os ydych chi’n darllen y llythyr hwn, rydych chi wedi dod i’r un casgliad a dwi’n eich canmol chi am hynny.

Mae fy adferiad wedi bod yn araf ond yn gyson.

A dweud y gwir, dydy’r broses ddim wedi bod yn un syth o bell ffordd – dringo a disgyn am yr ail, camau ymlaen a chamau’n ôl ac ambell i dro anghywir. Serch hynny, dwi mewn lle gwell o lawer erbyn hyn.

Dechreuodd fy adferiad pan ofynnais i am help. Dyna’r oll roedd ei angen, y cais syml hwnnw. Ond roedd yn gais a oedd y tu hwnt i ‘ngallu i’w fynegi mewn geiriau am gyfnod llawer rhy hir. Am gyfnod llawer rhy hir, roedd gen i gywilydd ohono i fy hun, ond mae’r teimlad hwnnw’n gyfarwydd i chi eisoes, ac fe gadwodd y cywilydd hwnnw fi’n fud.

Unwaith y llwyddais i ddod o hyd i’r llais hwnnw, y cryfder mewnol hwnnw i ofyn am help, newidiodd pethau er gwell.

Dysgais fy mod i’n sâl, bod gan fy salwch enw a bod ganddo felly dulliau triniaeth hysbys hefyd. Roedd ei enwi’n gwanhau llawer o rym y tywyllwch roeddwn i wedi byw ynddo gyhyd. Cafodd ei wendidau eu datgelu.

ODDI WRTH BARBARA

Annwyl Chi,

Dwi’n gwybod pa mor anodd yw clywed hyn, pan fydd clywed unrhyw beth yn gofyn am ymdrech trwy niwl o ddifaterwch ond bydd pethau’n gwella.

Os yw’ch profiad chi o iselder yn rhywbeth tebyg i fy un i, ar hyn o bryd rydych chi’n ofnus, ar waelod pydew tywyll heb unrhyw ffordd allan. Allwch chi ddim gwneud yr holl ymarfer corff yma maen nhw’n dweud wrthych byth a hefyd y bydd yn rhyddhau endorffin ac yn gwneud i chi deimlo’n well, oherwydd bod codi a gwisgo (ar ddiwrnod da) yn ddigon i’ch llethu’n lan heb sôn am ddim byd arall. Gallwch dreulio diwrnod cyfan yn gwneud dim byd, yn meddwl am ddim byd.

Bydd pobl yn gofyn i chi sut rydych chi’n teimlo. Am gwestiwn hurt. Dydych chi ddim yn teimlo dim.

Os cewch eich gwthio i ateb rydych chi’n llefain. Yn llefain y glaw. Mae llawer o bethau’n gwneud i chi lefain, a phan fyddwch chi’n llefain, allwch chi ddim peidio. Beth yw diben unrhyw beth?

A ydy hynny’n swnio’n gyfarwydd? Credwch chi fi, mae hyn yn gyfarwydd i mi – dwi wedi bod yn ôl a blaen yno gydol fy mywyd fel oedolyn.

Nawr edrychwch i fyny. Yn bell i fyny, i ben uchaf eich pydew dwfn du ac fe welwch lygedyn o olau haul. Dyma’ch gobaith chi. Ac mae dwylo yno’n ymestyn i lawr. Fy nwylo i yw’r rheiny, a dwylo pawb yma sy’n gyfarwydd â’r lefel honno o anobaith. Maen nhw’n ymestyn tuag atoch chi i gyffwrdd â chi, un bod dynol yn cyffwrdd ag un arall, cyffyrddiad sy’n dweud, ‘Rydyn ni yma. Rydyn ni wedi gwella, rydyn ni yma mewn golau dydd, ac un diwrnod, byddwch chi’n ôl yma hefyd. Ac nid ydym yn mynd i ddiflannu. Wnawn ni mo’ch gadael chi. Rydyn ni’n deall”

ODDI WRTH MEGAN

Annwyl Chi,

Ceisio ymdopi ag iselder yw un o’r pethau tebycaf i fod yn sownd mewn amser y gall bod dynol ei ddioddef.

Dwi’n rhannu’r meddyliau hyn o brofiad. Mae wedi bod yn siwrne roeddwn i’n ei chadw i mi fy hun ar un adeg; un na wnes i feddwl erioed y byddwn yn dechrau ei deall hyd yn oed, heb sôn am gael y rhai sy’n agos ata i i’w deall. Roedd y diwrnod y gwnes i gau fy llygaid i’r golau a deffro yn y tywyllwch yn ddiwrnod roeddwn i’n argyhoeddedig fy mod i wedi fy ngholli fy hun yn llwyr

Sut ydych chi’n dechrau gwneud synnwyr ohono, hyd yn oed pan fydd eich bywyd yn stopio’n sydyn ac rydych chi’n sownd mewn diddymdra di-ben-draw; yn gwylio pawb o’ch cwmpas yn parhau a’u bywydau, yn rhedeg tuag at y dyfodol a chithau’n cael eich gadael ar ôl? Y diffyg teimlad hwnnw na allwch chi ei amgyffred rywsut, sy’n graddol ddisodli’r ocsigen roeddech chi’n ei anadlu, yn gwenwyno llif y gwaed po fwyaf y byddwch chi’n ymladd am aer. Y tristwch na allwch chi ei symud, yn llechu o amgylch pob cornel ac yn adleisio ei gri drwy bob symudiad poenus y mae eich corff yn ceisio’i wneud. Y murmur dieflig hwnnw o egni gorbryderus sy’n taro dro ar ôl tro pan fydd eich cefn wedi’i droi, yn ddigon grymus i atal eich calon ar ganol curiad ac yn ddigon creulon i’ch gadael yno nes i chi gredu’n llwyr mai dyma fydd ei churiad olaf un.

Mae’r chwilio anobeithiol am y llewyrch a oedd ynoch chi unwaith yn dod yn ffordd unffordd sy’n eich arwain chi’n ôl bob amser i’r fan lle y dechreuoch chi.

Ar ôl ymdrechu’n egnïol fwy nag unwaith i redeg ar hyd yr un llwybr drosodd a throsodd, yn y pen draw rydych chi’n blino mwy a mwy gyda phob cam; nes bod eich corff a’ch meddwl yn dechrau rhedeg ar enaid gwag; modur hysb sy’n rhydu ac yn cracio o dan y gwres. I mi roedd iselder yn eiliad ddiddiwedd mewn amser, un roeddwn i’n meddwl na fyddwn i byth yn dianc ohoni.

Rhoddodd un o fy therapyddion cyntaf – un o lawer a ddaeth wedyn – ychydig o gyngor gwerthfawr i mi am adferiad bryd hynny sydd wedi aros gyda mi hyd heddiw. Dywedodd wrtha i, ‘Mae gwahaniaeth amlwg rhwng credu na allwch chi a gwybod na allwch chi.’

Pan glywais y geiriau hynny, newidiodd fy safbwynt ddigon o’r diwedd i fy atal fy hun rhag rhedeg ar hyd yr un llwybr hwnnw. Y rheswm i mi ddod i stop yn y cylch diddiwedd hwn o anobaith a gweld dim byd ond tranc ofnadwy oedd oherwydd fy mod i wedi gwneud i mi fy hun gredu nad oedd gen i’r dewis o wella. Ond mewn gwirionedd? Roedd y cyfle i wella yno. Ni allai fy llygaid symud y niwl, sef fy safbwynt damniol i fy hun.

Cyhoeddir Llythyrau Adferiad – At bobl sy’n wynebu iselder gan y Lolfa a gellir ei brynu o’ch siop lyfrau leol neu oddi ar gwales.com am £9.99.