Pwrpas 
Nod Pwrpas yw creu un pwynt cyfeirio ar gyfer dynion a allai fod yn teimlo pwysau ac yn ansicr pa gymorth sydd ar gael iddyn nhw. Bydd Pwrpas yn helpu dynion i adnabod a chydnabod eu problemau ac yna dechrau’r broses o wneud rhywbeth amdanyn nhw.
Eu nodau penodol yw:
-
Codi ymwybyddiaeth o’r heriau iechyd meddwl y mae dynion yn eu hwynebu.
-
Ymgysylltu â dynion a hybu sgyrsiau.
-
Cyfeirio dynion at gymorth priodol ar gyfer ystod eang o faterion a all effeithio ar iechyd meddwl.