Un

Cerdd gan Elin Angharad Davies a ymddangosodd yn gyntaf ar ei thudalen Facebook, ‘Gair o Gysur’, ac a gyhoeddwyd yn y gyfrol o’r un enw. 

Mae elw’r gyfrol yn mynd at meddwl.org, a gallwch ei phrynu o’ch siop lyfrau lleol neu ar-lein. 


Tra’n dathlu a gwledda’n un teulu,
A’r swigod yn casglu ynghyd.
Cymerwn un funud i feddwl
Am y bylchau sy’n llenwi ein byd.

Un anrheg yn llai dan y goeden.
Un gadair yn llai wrth y bwrdd.
Un cerdyn yn llai i’w ‘sgrifennu.
Un annwyl yn llai yn y cwrdd.

Un seren yn fwy yn yr wybren.
Un seren ddisgleiria’n y nen.
Yn arwydd o gariad o’r t’wyllwch
Yn goleuo ein bywyd drachefn.