Mae’n iawn dweud “na” am ‘leni, a nofio’n groes i’r lli. Wrth fod yn glên â thi dy hun, gwna’r hyn sy’n ‘iawn’ i ti.
Fe gofiwn am anwyliaid cu A gollwyd ‘leni’n greulon Trysorwn yr atgofion lu A’u cadw’n nwfn ein calon.
Does dim angen bod yn ferthyr. Gwisgo gwên, cael hwyl a sbri. Bydda’n glên a thi dy hunan. Gwna yr hyn sy’n iawn i ti.
Un anrheg yn llai dan y goeden. Un gadair yn llai wrth y bwrdd. Un cerdyn yn llai i’w ‘sgrifennu. Un annwyl yn llai yn y cwrdd.
Cerdd gan John Greenleaf Whittier a gyfieithwyd gan Elin Angharad Davies