Tachwedd
Tachwedd – trac oddi ar yr albym ‘Tân’ gan Lleuwen. Rhyddhawyd gan Gwymon (2011). Cân sy’n berthnasol i bobl sy’n byw gydag anhwylderau tymhorol.
Mae calon y gaeaf mor llwm –
Mae’n oer ac yn gafael, mae ‘na rew yn yr awel.
Mae hi’n gorwedd mewn gwely mor wag
Yn smocio dy faco wrth i’r tywydd fynd heibio.
Tachwedd oedda ti,
Mymryn o farug ar ei ffenest hi –
Yn obaith am eira go iawn,
Lle mae’r golau yn nhywyllwch y pnawn?
Tachwedd oedda ti.
Dy grys ar y gadair pren
Ac ysbryd dy ogla yn dal ar y cynfasau.
Mae’r ci yn aros wrth y drws
Yn disgwyl dy weld di yn dod fel goleuni.
O dy roddion drud!
Mae’r potel Jameson yn ei chadw hi’n glyd.
Dy rosod coch dal ar y bwrdd,
Yn sychu’n llwch ers iti redeg i ffwrdd.
Tachwedd oedda ti.
Mae lleisiau ei ffrindiau wrth y drws,
A chanu’n dragywydd mae’r ffôn ar y gobennydd
Ond rhaid cadw’r galon dan do –
Yn llygaid y gaea’ mae gofyn cloi y drysa’.
Tachwedd oedda ti –
Mis bach du yn ei bywyd hi.
Tachwedd, dyna i gyd,
Daw golau newydd yn nhywydd rhyw ddydd.
Tachwedd oedda ti.