Sathrwn ar Stigma

Cerdd gan Elen Reader i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Dibyniaeth. 


Gwthia gariad d’anwyliaid
I gyrion y gwe
I gael esgus i groesawu
Hen gyfaill sy’n elyn.

Y gwe sy’n gwlwm tynn
o’n cwmpas
Haen ar ôl haen
llawn casineb, cywilydd,
dy euogrwydd, dy edifar
Dy drawma.

Y stigma sy’n rhwystr
Y stigma sy’n sathru
ar obaith o oleuni
Gan orfodi diwylliant
o guddio, gwenu ac amddiffyn
i’r eithaf.
Stigma sy’n bwydo’r hen gyfaill,
y gelyn.

Gydag amser, amynedd ac ymwybyddiaeth
Daw
Maddeuant – i raddau
Dealltwriaeth – bron iawn
Derbyn – hyd braich.